Llwybr Arfordir Cymru wedi gwneud i mi deimlo fy mod yn perthyn eto
Blogiad ysbrydoledig a chalonogol gan yr ymgyrchydd...
Cysylltwch â natur ar hyd y llwybr
Hawlfraint y Goron
Wyddech chi fod sawl Gwarchodfa Natur Genedlaethol ar hyd ac ar led Llwybr Arfordir Cymru sy’n cynnwys rhai o’r bywyd gwyllt, fflora a ffawna cynhenid mwyaf anhygoel sydd gan Gymru i’w cynnig?
Yn ogoneddus mewn unrhyw dymor, hyd yn oed yn y misoedd oerach, tywyllach y gaeaf yr ydym yn eu profi ar hyn o bryd, mae digon i'w archwilio a'i fwynhau wrth i ni aros i’r gwanwyn gyrraedd.
Gwarchodwch fywyd gwyllt yn y mannau arbennig hyn trwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad a pheidio â gadael unrhyw olion o'ch ymweliad. Rhaid i berchnogion cŵn roi sylw i’r arwyddion lleol a defnyddio tennyn byr pan ofynnir iddynt.
Wedi’i lleoli rhwng dinas Casnewydd ac aber afon Hafren, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd yn un o’r safleoedd gorau yn y wlad ar gyfer gwylio adar, gyda’r gaeaf yn dymor perffaith i ymweld oherwydd heidiau mawr sy’n ymweld ar yr adeg hon o’r flwyddyn.
Mae’r warchodfa’n rhan o Wastadeddau Gwent ac mae’n cynnwys ystod amrywiol o gynefinoedd isel, gan gynnwys glaswelltir gwlyb, gwelyau cyrs, morfa heli a morlynnoedd heli.
Mae rhwydwaith saith cilometr o lwybrau wedi’u hailwynebu o amgylch gwelyau cyrs Aber-wysg sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, ochr yn ochr â’r ganolfan ymwelwyr a’r caffi, sgriniau gwylio ar draws y sianeli dŵr dwfn, llwyfan gwylio uwch, a chuddfan i wylio adar.
Chwiliwch am y gwalch bach, yr hebog tramor, y chwiwell, y gorhwyaden, pibydd y mawn a’r gornchwiglen yn ystod misoedd y gaeaf. Mae croeso i gŵn ar dennyn byr ar daith gylchol 6km y Llwybr Lonydd Gwyrdd ac Arfordir, sy’n dilyn llwybrau troed o amgylch ymyl y warchodfa.
Wedi’i lleoli yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU, Penrhyn Gŵyr, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich yn cynnwys traeth euraidd ysgubol, twyni tywod, clogwyni, a chorsydd heli a dŵr croyw. Mae ei hamrywiaeth gyfoethog o gynefinoedd yn ei gwneud yn un o'r canolfannau bywyd gwyllt mwyaf diddorol yn y de.
O degeirianau gwyllt, y crwynllys Cymreig prin, gloÿnnod byw, adar ac ystlumod, mae'r warchodfa'n darparu ecosystem gydol y flwyddyn i rywogaethau mudol a chynhenid.
Yn ystod y gaeaf, cadwch lygad am adar hela, aderyn y bwn, y crëyr bach, rhegen y dŵr a’r gïach bach. Dewiswch o ddetholiad o lwybrau cerdded arfordirol a choetir i weddu i’ch dewis, gyda dwy daith gylchol sy’n mynd â chi drwy’r twyni, lle mae merlod gwyllt yn pori drwy’r flwyddyn.
Yn gynefin gwlyptir arall yn llawn gwelyau cyrs a hesg, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Pant y Sais yn baradwys i blanhigion, adar a thrychfilod y gwlyptir.
Yn gartref i weision y neidr a chorryn mwyaf Prydain, corryn rafft y ffen, un o’r trychfilod mwyaf prin a mwyaf dan fygythiad yn y DU, mae Pant y Sais yn ddiwrnod allan gwych i ddilynwyr yr ‘ymlusgol’.
Bydd y creaduriaid mawr hyn yn gaeafgysgu yn ystod y gaeaf ac felly ni fyddwch yn eu gweld (a allai fod yn rhyddhad i rai!).
Mae gan y warchodfa ei hun lwybr pren sy’n mynd â chi i’r gwlyptiroedd, gan gynnig llwybr uniongyrchol byr i mewn i ecosystem unigryw’r warchodfa a chipolwg ar gynefin corryn rafft y ffen ar hyd Camlas Tennant. Gallwch ymuno â Llwybr Arfordir Cymru o ymyl y warchodfa a pharhau â’ch taith gerdded ar hyd arfordir Abertawe.
Wedi’i lleoli yn ne Sir Benfro a thafliad carreg o Benfro, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ystad Ystagbwll yn cynnwys llond gwlad o gynefinoedd arfordirol a choetir, gan gynnwys dyffrynnoedd tawel niferus, pyllau lili llawn bywyd gwyllt a thraethau tywodlyd.
Yn gartref i ddau o faeau enwocaf Sir Benfro, Broadhaven a Barafundle, mae Ystagbwll yn gadarnle i sawl rhywogaeth, gan gynnwys un o boblogaethau mwyaf Prydain o’r ystlum pedol mwyaf prin.
Mae llynnoedd dŵr croyw Bosherston yn gyforiog o ddyfrgwn, adar y dŵr a gweision y neidr. Yn ystod misoedd y gaeaf, maen nhw’n lleoedd gwych i weld amrywiaeth eang o adar sy’n gaeafu, gan gynnwys y cwtiar, yr hwyaden lwyd, yr hwyaden ddanheddog, yr hwyaden lygad-aur, y gorhwyaden ac weithiau aderyn y bwn.
Mae Ynys-las yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, a leolir hanner ffordd rhwng Aberystwyth a Machynlleth yn y Canolbarth. Mae twyni aur Ynys-las ar ochr ddeheuol aber afon Dyfi a dyma'r twyni mwyaf yng Ngheredigion, yn gartref i boblogaeth gyfoethog o degeirianau, mwsoglau, llysiau'r afu, ffyngau, pryfed a chorynod, y mae llawer ohonynt yn brin ac y mae rhai ohonynt yn anhysbys mewn mannau eraill ym Mhrydain.
Mae'r aber yn doreithiog mewn gwastadeddau llaid, banciau tywod a morfeydd heli o bwysigrwydd rhyngwladol sy'n darparu mannau bwydo a chlwydo i adar gwlyptir. Yn ystod y gaeaf, mae aber afon Dyfi yn gartref i adar gwyllt sy'n gaeafu, ac mae’r traeth yn croesawu rhydwyr, pibyddion y tywod a chwtiaid aur.
Yn aml, gellir gweld adar ysglyfaethus hela fel barcutiaid, bwncathod a hebogiaid tramor yn chwilio am eu pryd nesaf dros y dirwedd gorsiog. Efallai y byddwch hefyd yn gweld gŵydd dalcenwen yr Ynys Las, aderyn mudol sy'n unigryw i Ynys-las yn unig.
Mae twyni tywod symudol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn yn un o’n safleoedd arfordirol mwyaf deinamig. Mae cynefinoedd twyni deinamig a chyfnewidiol gydag ardaloedd mawr o dywod noeth yn dod yn fwyfwy prin ledled y DU, gan ei wneud yn un o’r cynefinoedd mwyaf dan fygythiad a phwysig yn y wlad.
Mae gwynt yn ail-lunio’r twyni anferth yn gyson ac mae’r llaciau isel yn darparu canfas gwag ar gyfer ystod eang o rywogaethau o blanhigion a phryfed arbenigol a phrin fel tegeirianau rhuddgoch, mwsoglau, gwenyn turio a gwenyn feirch unig.
Mae'r gwastadeddau tywod a'r morfa heli yn Aber Artro yn fannau bwydo pwysig i adar y dŵr yn y gaeaf. Mae adar hirgoes yn defnyddio'r traeth ond, os edrychwch chi ar y môr, efallai y gwelwch wyachod a throchwyr yn gaeafu. Ymhlith yr adar eraill sy'n ymddangos yn ystod y misoedd oerach mae'r frân goesgoch a’r boda tinwyn.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech yn dirwedd arfordirol drawiadol arall sy’n gartref i gynefinoedd twyni tywod a chorstir arfordirol prin.
Mae Morfa Harlech, sy’n cael ei hadnabod fel un o’r trysorau naturiol cyfoethocaf ac yn gartref i ystod amrywiol o blanhigion ac anifeiliaid, i gyd wedi’u haddasu’n arbennig i fywyd ar ymyl y moroedd, yn rhoi cyfle i archwilio bywyd gwyllt brodorol mwyaf prin Cymru.
Mae adar fel yr ehedydd a chlochdar y cerrig yn bridio yn y twyni, gyda'r pibydd coesgoch a'r gornchwiglen yn defnyddio'r morfa heli. Yn y gaeaf, mae adar hirgoes fel pioden y môr, pibydd y mawn a phibydd y tywod yn bwydo ar hyd y draethlin, ac adar y dŵr yn defnyddio corstir a gwastadeddau arfordirol helaeth aber afon Dwyryd.
Mae twyni, corsydd arfordirol, a glannau tywodlyd a chreigiog Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch a Choedwig Niwbwrch wedi cael eu llunio dros filoedd o flynyddoedd gan y gwynt a Môr Iwerddon.
Mae’r dirwedd arfordirol eang hon yn cael ei hystyried yn un o’r systemau twyni mwyaf a gorau yn y DU, ac mae’n gartref i amrywiaeth eang o fflora a ffawna twyni tywod prin ac mewn perygl, megis tegeirianau rhyddgoch a rhywogaethau caldrist, mwsoglau a llysiau’r afu prin, gelod meddyginiaethol, a rhywogaethau prin eraill o bryfed. Gellir cael mynediad at y warchodfa trwy rwydwaith o lwybrau troed ac mae detholiad o lwybrau cerdded, rhedeg a beicio yn y goedwig.
Cyhoeddwyd Gwarchodfa Natur Genedlaethol Tywyn Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn fel y Warchodfa Natur Genedlaethol arfordirol gyntaf yng Nghymru ym 1955. Mae’r rhan o’r coetir o amgylch Llyn Parc Mawr yn gartref i wiwerod coch ac mae llwybr darganfod wedi’i neilltuo iddi.
Yn ystod yr hydref a'r gaeaf, mae pibyddion coesgoch a chwtiaid yn ymuno ag adar dŵr mudol fel yr ŵydd ddu, hwyaden yr eithin a’r chwiwell ar forfeydd heli ac aberoedd Cefni a Thraeth Melynog. Ymwelir â’r pyllau y tu ôl i arglawdd y Cob gan adar fel yr hwyaden lostfain, y chwiwell, y gorhwyaden a’r gornchwiglen, sy’n dod yma i ddianc rhag gaeafau caletach yr Arctig.