Bywyd gwyllt yn deffro yng ngwarchodfeydd natur cenedlaethol Cymru

Cysylltwch â natur ar hyd y llwybr yn ystod y gwanwyn

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

A wyddech chi fod sawl gwarchodfa natur genedlaethol ar hyd ac ar led Llwybr Arfordir Cymru sy’n cynnwys rhai enghreifftiau o’r bywyd gwyllt, fflora a ffawna cynhenid mwyaf anhygoel sydd gan Gymru i’w cynnig?  

Mae ymweld ag unrhyw un o’r gwarchodfeydd hyn yn brofiad hyfryd pa bynnag dymor yw hi, ond mae’r gwanwyn yn cynnig hyd yn oed mwy o gyfleoedd i archwilio a mwynhau eu harddwch.

Gwarchodwch fywyd gwyllt yn y mannau arbennig hyn trwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad a pheidio â gadael unrhyw olion o'ch ymweliad. Rhaid i berchnogion cŵn roi sylw i’r arwyddion lleol a defnyddio tennyn byr pan ofynnir iddynt.

Gwlyptiroedd Casnewydd

Wedi’i lleoli rhwng dinas Casnewydd ac aber afon Hafren, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd yw un o’r safleoedd gorau yn y wlad i wylio adar, yn enwedig pan ddaw’r gwanwyn â rhywogaethau o adar hirgoes mudol i’r morlynnoedd heli, a phan gaiff teuluoedd â phlant ifanc fwynhau gweld hwyaid bach a chywion ym mhob rhan o’r warchodfa. Mae’r warchodfa’n rhan o Wastadeddau Gwent ac mae’n cynnwys ystod amrywiol o gynefinoedd isel, gan gynnwys glaswelltir gwlyb, gwelyau cyrs, morfa heli a morlynnoedd heli.

Mae rhwydwaith saith cilometr o lwybrau wedi’u hailwynebu o amgylch gwelyau cyrs Aber-wysg sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, ochr yn ochr â’r ganolfan ymwelwyr a’r caffi, sgriniau gwylio ar draws y sianeli dŵr dwfn, llwyfan gwylio uwch, a chuddfan i wylio adar. Mae’r pyllau’n cynnig cyfleoedd gwych i wylio bywyd gwyllt megis elyrch dof, hwyaid copog, cwtieir, a theuluoedd o wyachod bach. Gallwch hefyd weld y cornicyllod a’r cambigau yn perfformio, tra’n gwrando ar gân y teloriaid a’r ehedyddion. Mae croeso i gŵn ar dennyn byr ar daith gylchol chwe chilometr y Llwybr Lonydd Gwyrdd ac Arfordir, sy’n dilyn llwybrau troed o amgylch ymyl y warchodfa.

Bae Oxwich, Abertawe

Wedi’i lleoli yn ardal o harddwch naturiol eithriadol gyntaf y DU, Penrhyn Gŵyr, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich yn cynnwys traeth euraidd ysgubol, twyni tywod, clogwyni, a chorsydd heli a dŵr croyw. 
O degeirianau gwyllt, y crwynllys Cymreig prin, gloÿnnod byw, adar ac ystlumod, mae’r warchodfa’n darparu ecosystem gydol y flwyddyn i rywogaethau mudol a chynhenid. Yn ystod y gwanwyn, cadwch olwg am hwyaid, rhegennod y dŵr, gwyachod bach ac ieir dŵr, yn ogystal â pherllannau gwyllt sy’n blodeuo o fis Mai ymlaen. Mae yna amryw o lwybrau cerdded arfordirol a choetir i weddu i’ch dewis, gyda dwy daith gylchol sy’n mynd â chi drwy’r twyni, lle mae merlod gwyllt yn pori drwy’r flwyddyn. 

Pant y Sais, Abertawe 

Yn gynefin gwlyptir arall yn llawn gwelyau cyrs a hesg, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Pant y Sais yn baradwys i blanhigion, adar a thrychfilod y gwlyptir. Mae’n gartref i weision y neidr a chorryn mwyaf Prydain, corryn rafft y ffen, sef un o’r trychfilod mwyaf prin a’r un sydd o dan y bygythiad mwyaf yn y DU, er eich bod yn llawer mwy tebygol o weld gloÿnnod byw a gweision y neidr yn ystod eich ymweliad.
Mae llwybr pren yn y warchodfa ei hun sy’n mynd â chi i’r gwlyptiroedd ac yn cynnig llwybr uniongyrchol, byr i mewn i ecosystem unigryw’r warchodfa a chipolwg ar gynefin corryn rafft y ffen ar hyd Gamlas Tennant. Gallwch ymuno â Llwybr Arfordir Cymru wrth ffin y warchodfa a pharhau â’ch taith gerdded ar hyd arfordir Bae Abertawe. 

Yn ystod y gwanwyn hefyd bydd amrywiaeth o adar gwely cyrs yn glanio, gan gynnwys telor y gwair, telor y cyrs a thelor yr hesg, gan ymuno â’r telor Cetti a bras y cyrs, sydd wedi ymgartrefu yma. Mae’r gog hefyd i’w chlywed a’i gweld yn rheolaidd o fis Ebrill ymlaen.

Ystad Ystagbwll, Sir Benfro

Wedi’i lleoli yn Ne Sir Benfro, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ystad Ystagbwll yn gyfoeth o gynefinoedd arfordirol a choetir, yn llawn dyffrynnoedd tawel, pyllau lili llawn bywyd gwyllt, a thraethau tywodlyd. Yn gartref i ddau o faeau enwocaf Sir Benfro, Aberllydan a Barafundle, mae Ystagbwll yn gadarnle i sawl rhywogaeth, yn cynnwys un o boblogaethau mwyaf Prydain o’r ystlum pedol mwyaf prin.

Mae llynnoedd dŵr croyw Bosherston yn gyforiog o ddyfrgwn, adar y dŵr a gweision y neidr. Mae’n le gwych i weld amrywiaeth eang o adar yn ystod misoedd y gwanwyn, gan gynnwys teloriaid y cyrs a theloriaid yr hesg. Ar y gwningar gallwch weld llinosiaid ac ehedyddion, ac ar y clogwyni, brain coesgoch yn magu, a nythfeydd o lursod a gwylogod.

Dyfi Ynys-las, Ceredigion

Mae Ynys-las yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, a leolir hanner ffordd rhwng Aberystwyth a Machynlleth yn y Canolbarth. Mae twyni euraidd Ynys-las ar ochr ddeheuol aber afon Dyfi, a dyma’r twyni mwyaf yng Ngheredigion, yn gartref i boblogaeth gyfoethog o degeirianau, mwsoglau, llysiau’r afu, ffyngau, pryfed a chorynnod, y mae llawer ohonynt yn brin ac y mae rhai ohonynt yn anhysbys mewn mannau eraill ym Mhrydain.

Mae’r aber yn doreithiog o wastadeddau llaid, banciau tywod a morfeydd heli o bwysigrwydd rhyngwladol sy’n darparu mannau bwydo a chlwydo i adar gwlyptir. Yn ystod y gwanwyn, efallai y cewch gipolwg ar un o’r llu o ymlusgiaid sy’n ymweld â’r cynefin hwn, megis y fadfall gyffredin, madfall y tywod, y wiber a neidr y gwair, yn ogystal â gwenynen durio’r gwanwyn Gymreig. Mae digonedd o drydar i’w fwynhau hefyd, o gân yr ehedydd, y llinos, y siff-siaff a thelor yr helyg, i drydar y troellwr mawr gyda’r nos.

Morfa Dyffryn, Gwynedd

Mae twyni tywod symudol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn yn un o’n safleoedd arfordirol mwyaf dynamig.  Mae cynefinoedd twyni dynamig sy’n esblygu’n barhaus gydag ardaloedd mawr o dywod noeth yn dod yn fwyfwy prin ledled y DU, sy’n eu gwneud yn un o’r cynefinoedd sydd fwyaf o dan fygythiad, ac un o’r rhai pwysicaf yn y wlad. Mae’r gwynt yn ailffurfio’r twyni anferth yn ogystal â’r llaciau isel yn gyson, sy’n darparu dalen wag ar gyfer ystod eang o rywogaethau o blanhigion a phryfed arbenigol a phrin megis tegeirianau’r gors, mwsoglau, gwenyn turio a gwenyn meirch unigol.

Wrth i laswelltiroedd y twyni a’r llaciau ddod yn fyw gan amrywiaeth o blanhigion blodeuol, gallwch weld blodau gwyllt, cennau, a mwsoglau prin, gan gynnwys sawl rhywogaeth o degeirianau gwyllt megis caldrist y gors, tegeirian y gors gogleddol, a thegeirian y gors cynnar. Mae blodau gwyllt lliwgar megis clustog Fair, y ganrhi goch, y tagaradr, y trilliw a sanau’r gog yn dechrau blodeuo yn gynnar yn y tymor, gyda rhywogaethau arfordirol megis pysen-y-ceirw yn ymddangos yn ddiweddarach. Efallai y bydd ymwelwyr hefyd yn dod ar draws planhigion unigryw megis clust-y-llygoden arfor, tywodlys dail teim, llaethlys Portland, a pheiswellt y twyni.

Morfa Harlech, Gwynedd

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech yn dirwedd arfordirol drawiadol arall sy’n gartref i gynefinoedd twyni tywod a chorstir arfordirol prin. Mae Morfa Harlech, a gaiff ei hadnabod fel un o’r trysorau naturiol cyfoethocaf a chartref i ystod amrywiol o blanhigion ac anifeiliaid—pob un wedi addasu’n arbennig ar gyfer bywyd ar lan y môr—yn rhoi’r cyfle i archwilio bywyd gwyllt cynhenid mwyaf prin Cymru. 

Mae ymweld yn y gwanwyn yn rhoi’r cyfle i weld amrywiaeth o flodau gwyllt a mwsoglau prin. Mae’r warchodfa’n gartref i degeirianau gwyllt megis caldrist y gors a thegeirian y gors gogleddol, sy’n tyfu ochr yn ochr â gwelyau o’r gellesgen. Bydd y blodau gwyllt llachar megis y ganrhi goch, bustl y ddaear, y trilliw a sanau’r gog yn blodeuo i ddechrau, ac yna’r rhywogaethau arfordirol megis y tagaradr a physen y ceirw, gan greu arddangosfa fywiog a thrawiadol.

Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch, Ynys Môn

Mae twyni, corsydd arfordirol, a glannau tywodlyd a chreigiog Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch a Choedwig Niwbwrch wedi cael eu llunio dros filoedd o flynyddoedd gan y gwynt a Môr Iwerddon. Caiff y dirwedd arfordirol eang hon ei hystyried yn un o’r systemau twyni mwyaf a gorau yn y DU, ac mae’n gartref i amrywiaeth eang o fflora a ffawna twyni tywod prin, a’r rheiny sydd mewn perygl, megis tegeirianau rhuddgoch a chaldrist y gors, mwsoglau prin a llysiau’r afu, gelod meddyginiaethol, a rhywogaethau prin eraill o bryfed. Gellir cael mynediad at y warchodfa trwy rwydwaith o lwybrau troed, ac mae dewis o lwybrau cerdded, rhedeg a beicio yn y goedwig.  

Mae rhan y coetir o amgylch Llyn Parc Mawr yn gartref i wiwerod coch prin gyda llwybr darganfod wedi’i neilltuo iddo. Yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf mae’r twyni’n garped o filoedd o flodau lliwgar, gan gynnwys tegeirianau prin, ac yn fwrlwm o bryfed ac adar. Gwrandewch am yr ehedydd yn uchel uwchben y warchodfa a chlebran y llwydfron, clochdar y cerrig a’r llinosiaid yn y twyni tywod a’r coetir agored.