Llesiant Gwyllt ar hyd Llwybr Arfordir Cymru

Rhowch faeth i’ch meddwl, corff ac enaid ger yr arfordir

Pembrokeshire Surf School

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Mae Llwybr Arfordir Cymru, sy’n ymestyn am 870 milltir ar hyd arfordir godidog Cymru, yn fwy na chyfres o olygfeydd – mae’n noddfa i bobl sy’n chwilio am lesiant. O ben clogwyni syfrdanol i encilfeydd arfordirol adfywiol, mae’r llwybr yn cynnig ffyrdd di-ri o ddatgysylltu, dadflino ac ailgysylltu â natur.

P’un a ydych chi’n syrffio tonnau gwyrddlas yn Sir Benfro, yn gorwedd mewn baddonau gwymon ar Ynys Môn, neu’n eistedd mewn llonyddwch ac unigedd wrth ymyl y môr, mae’r llwybr yn llawn o gyfleoedd i roi maeth i’ch meddwl, eich corff a’ch enaid. Dyma’ch canllaw i’r mannau mwyaf llesol ac adferol ar hyd y daith fythgofiadwy hon.

Nid ydym yn cymeradwyo nac yn argymell unrhyw fusnesau unigol a restrir ar y dudalen hon yn fwy na’i gilydd.

Ar frig y tonnau!

Mae gafael mewn bwrdd syrffio a throedio’r tonnau nid yn unig yn ffordd gyffrous o gofleidio’r elfennau, ond y mae hefyd yn ffordd bwerus o gysylltu â rhythm y môr. Mae syrffio’n cynnig golwg unigryw ar arfordir godidog Cymru, un a brofir orau o’r môr. P’un a ydych chi’n syrffiwr profiadol neu’n ddechreuwr, fe welwch chi amrywiaeth o ganolfannau ac ysgolion syrffio croesawgar ar hyd ac ar led llwybr yr arfordir, yn barod i’ch helpu i ddal y don berffaith.

Academi Syrffio Gŵyr, Abertawe

Wedi’i lleoli ar Benrhyn Gŵyr, ardal o harddwch naturiol eithriadol ddynodedig gyntaf y DU, mae Academi Syrffio Gŵyr yn ganolfan groesawgar i ddechreuwyr a syrffwyr proffesiynol fel ei gilydd. Gyda hyfforddwyr arbenigol yng nghanol golygfeydd godidog, dyma’r lle perffaith i droedio’ch ton gyntaf neu i hogi’ch sgiliau.

Ysgol Syrffio Outer Reef, Sir Benfro

Wedi’i lleoli yn Sir Benfro brydferth, mae Ysgol Syrffio Outer Reef yn cynnig mwy na dim ond syrffio – meddyliwch am geufadu, arforgampau, ac enciliadau syrffio a phadlfyrddio ar eich traed i fenywod yn unig, sy’n cynnwys llety am ddwy noson, pedwar gweithgaredd dŵr, a’r cyfle i ddod i adnabod criw o fenywod o’r un anian.  

Ysgol Syrffio Porthcawl

Wedi’i lleoli yn nhref glan môr fywiog Porthcawl, mae Ysgol Syrffio Porthcawl yn gweithredu drwy gydol y flwyddyn ac yn darparu ar gyfer syrffwyr canolradd ac uwch. 

Padlfyrddio ar eich traed, nofio, hwylio a mwy

Mae arfordir Cymru yn faes chwarae i bob math o weithgareddau dŵr, sy’n golygu bod digon i ddewis ohono os nad yw syrffio’n hollol at eich dant chi. Waeth beth yw eich lefel, mae gan weithgareddau dŵr restr hir o fanteision meddyliol a chorfforol, boed hynny’n badlfyrddio tawel ar eich traed, neu standup paddleboarding (SUP), neu’n antur gyffrous ar eFoil.

Foilride, Ynys Môn

Eisiau rhywbeth ychydig yn wahanol? Rhowch gynnig ar reidio ar fwrdd syrffio tawel wedi’i bweru â thrydan yn ysgol eFoil gyntaf y DU ar Ynys Môn. Wedi’i bweru gan ynni adnewyddadwy a bron yn ddi-sŵn, mae’n brofiad effaith isel ar Afon Menai ond mae’r cyffro’n wefreiddiol.

Hydro Abersoch

O hwylio i yrru cychod modur, mae Hydro Abersoch yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i bob gallu. Antur anferthol ar ôl diwrnod yn crwydro siopau, caffis a thraethau euraidd y dref lan môr hon ym Mhen Llŷn.

Stand up Paddle Gower

I gael padlo’n heddychlon neu ymarfer corff ar y dŵr, mae padlfyrddio ar eich traed yng nghanol harddwch naturiol godidog Gŵyr yn anodd ei guro. Darllenwch fwy am SUP Gower

Ioga wrth badlfyrddio ar eich traed

Padlfyrddio ar eich traed, ond ychydig yn wahanol. Mae ioga wrth badlfyrddio ar eich traed yn sesiynau unigryw a fydd yn eich tywys trwy ystumiau clasurol wrth gydbwyso ar eich bwrdd yng nghanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd. Gyda’r nod o herio, cryfhau ac ymlacio’ch corff a’ch meddwl, mae’r sesiynau’n mynd ag ioga arfordirol i’r lefel nesaf.

The Blue Tits - cymuned nofwyr dŵr oer

Dechreuodd y gymuned fywiog hon o nofwyr dŵr oer eu taith yn Sir Benfro yn 2014 ac mae’r grŵp bellach yn cynnwys dros 150,000 o aelodau ledled y DU. Chwiliwch am eich grŵp Blue Tits lleol ar eu gwefan a’u sianeli cyfryngau cymdeithasol prysur i ddarganfod manteision nofio mewn dŵr agored ac ymuno â sesiwn nofio yn eich ardal.

Cysylltwch â natur ar daith chwilota am fwyd

Mae teithiau chwilota am fwyd ar hyd arfordir Cymru yn cynnig ffordd ddofn o gysylltu â’r tir a dysgu am ei blanhigion bwytadwy, meddyginiaethol a chwedlonol. Mae Forage Pembrokeshire, Really Wild Emporium, Wild Food People a Coastal Foraging yn ddim ond rhai o’r cyflenwyr sy’n cynnig profiad chwilota am fwyd sydd ar gael yng Nghymru, a chyda thywyswyr arbenigol, byddwch yn dysgu am gynhwysion tymhorol, cynaliadwyedd, a llên gwerin arfordir Cymru.

Ymwybyddiaeth ofalgar ger y dŵr

Gall y weithred syml o fod ger y môr ddileu straen, miniogi eich gallu i ganolbwyntio a chodi eich hwyliau, ond nid dyna’r cyfan. Ar draws arfordir Cymru, mae dosbarthiadau ioga, myfyrdod ac ioga tra’n padlfyrddio ar eich traed yn eich gwahodd i ymsefydlu’n llwyr yn y foment wedi’ch amgylchynu gan ddim ond yr awyr fawr, aer hallt a thonnau’r môr. 

Baddonau gwymon Halen Môn, Brynsiencyn

Profiad ymdrochi a dadwenwyno breuddwydiol yn yr awyr agored ar Ynys Môn. Cewch suddo i mewn i dwba twym wedi’i drwytho â gwymon sy’n edrych yn syth allan i’r môr. Mewn dŵr cynnes, mae gwymon yn rhyddhau olewau sy’n llawn mwynau ac sy’n lleddfu cyhyrau blinedig, sy’n golygu y byddwch chi’n gadael wedi’ch glanhau’n gorfforol ac yn feddyliol. Os hoffech chi fwynhau sesiwn dawel, lle gofynnir i westeion siarad cyn lleied â phosibl, archebwch slot ar fore Sul am 9.30am. Darllenwch fwy am Halen Môn 

Myfyrio yn Llandudno, Gogledd Cymru

Wedi’i sefydlu ym 1992 gan yr Hybarch Geshe Kelsang Gyatso Rinpoche, meistr byd-enwog ar fyfyrdod, mae Canolfan Fwdhaidd Kalpa Bhadra Kadampa yn canolbwyntio ar fyfyrdod dan arweiniad a heddwch mewnol. Cynigir sesiynau ledled y Gogledd gan gynnwys ym Mangor, y Rhyl a Wrecsam, gyda sesiynau myfyrdod dan arweiniad ar lan y môr yn Llandudno. Darllenwch fwy am fyfyrio yng Ngogledd Cymru

Bar ioga Vibes, Caerdydd 

Mae’r stiwdio hamddenol hon yn cynnig ioga a Pilates bob dydd, yn ogystal â sesiynau awyr agored rheolaidd ar lan y dŵr yng Nghei’r Fôr-forwyn ym Mae Caerdydd, gan gyfuno symudiad ag awel arfordirol. Darllenwch fwy am far ioga Vibes

Lleddfu straen mewn sawna ar lan y môr

Mae therapi cyferbynnedd sy’n cynnwys sesiynau sawna poeth am yn ail ag ymdrochi yn y môr oer yn dod yn hynod boblogaidd am ei fanteision o ran lleddfu straen a hybu cylchrediad y gwaed. Mae sawnau yn helpu i dawelu’r system nerfol trwy annog anadlu dwfn ac araf a gallant helpu i wella iechyd cardiofasgwlaidd gan waredu tocsinau niweidiol.  Hwnt ac yma ar hyd arfordir Cymru mae amrywiaeth o sawnau wedi’u crefftio’n hyfryd, yn aml dim ond ychydig gamau o’r môr, yn eich gwahodd i gynhesu, plymio i’r dŵr, a theimlo eich bod wedi’ch aileni.

Gogledd Cymru

  • Seacoast, Biwmares- Sawna mewn casgen wedi’i chrefftio o bren thermol o ansawdd uchel, wedi’i hysbrydoli gan ddiwylliannau Sgandinafaidd. Darllenwch fwy am Sawna Seacoast
  • Sawna Bach, Ynys Môn - Sawna gwladaidd ar dân coed yn swatio yn nhwyni traeth Porth Tyn Tywyn ar Ynys Môn. Darllenwch fwy am Sawna Bach ar Ynys Môn
  • Casgen, Bae Colwyn  - Wedi’i leoli ar y traeth ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn ac yn gartref i glwb sawna Sunset. Ewch i Instagram Casgen
  • Sauna Môr, Aberdaron - Sawna traeth ar dân coed yn Aberdaron, yn cynnig therapi cyferbynnedd ar ben gorllewinol Pen Llŷn. Darllenwch fwy am Sauna Môr

Gorllewin Cymru

  • Aberpoeth, Aberystwyth - Profiad sawna Nordig sy’n dod â manteision therapi sawna yn syth i bromenâd Aberystwyth. Darllenwch fwy am brofiad sawna Aberpoeth
  • Sawna Sgandinafaidd symudol cyntaf Ceredigion sy’n defnyddio tân coed, wedi’i leoli ar draeth Llangrannog. Darllenwch fwy am Sawna Llosgi
  • Wildwater Sauna, Sir Benfro - Wedi’i chynnwys ar restr y sawnau glan môr gorau yn y DU gan The Times, mae’r sawna crwydrol hwn yn ymddangos hwnt ac yma ar hyd arfordir Sir Benfro. Darllenwch fwy am Wildwater Sauna

De Cymru