Archwiliwch ochr dywyll Llwybr Arfordir Cymru y Calan Gaeaf hwn
Saith stori sy’n sicr o anfon ias i lawr eich...
Cysylltu â byd natur drwy gydol y flwyddyn wrth archwilio’r llwybr
Paul Steele (Bald Hiker)
Gan Emily Lake, Swyddog Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd ar gyfer Caru Aber Dyfrdwy, prosiect sy’n cael ei weithredu gan Ymddiriedolaeth Natur Swydd Gaer.
Croeso i Aber Afon Dyfrdwy. Hoffai tîm Llwybr Arfordir Cymru o Gyfoeth Naturiol Cymru a phrosiect Caru Aber Dyfrdwy a’i bartneriaid ddangos i chi ryfeddodau niferus Aber Afon Dyfrdwy a’r ffordd orau i’w fwynhau drwy gydol pedwar tymor y flwyddyn.
Mae'r gwanwyn yn arwydd o ddyfodiad bywyd newydd i'r byd naturiol ac mae hynny’n wir hefyd am Aber Afon Dyfrdwy yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae rhywogaethau preswyl fel Llyffant y Twyni yn dechrau magu ym mis Ebrill ar yr un pryd ag y bydd rhywogaethau o adar mudo fel y Môr-wenoliaid Bach yn cyrraedd traethau o ro mân yr aber i ddewis safle nythu.
Ochr yn ochr â’r rhywogaethau mwy sy’n galw’r aber yn gartref, mae rhai trigolion llai fel glöynnod byw a gwenyn i’w gweld. Wrth gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru yn y gwanwyn, mae’r planhigion a’r infertebrata yn creu fflachiadau o liw, ond mae’n anodd iawn eu gweld. Wrth fwynhau'r olygfa banoramig allan ar draws y dŵr neu'r gwastadeddau llaid am Loegr, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n edrych ar yr hyn sy'n digwydd o'ch cwmpas chi gan fod rhai perlau gwirioneddol na ddylech chi eu colli.
Ymhlith y rhywogaethau allweddol i gadw llygad amdanyn nhw mae glöyn byw y Glesyn Cyffredin a glöyn byw Glesyn y Celyn sy’n mwynhau bwydo ar amrywiaeth o blanhigion llawn neithdar sy’n tyfu ar hyd llwybr yr arfordir. Mae glöyn byw y Gwyn Blaen Oren yn rhywogaeth drawiadol arall y gallech ei gweld ac sy’n mwynhau’r cynefin mwy trwchus o wrychoedd sydd i’w weld ar hyd rhannau o’r llwybr.
Mae rhai o’r rhywogaethau llai lliwgar ond yr un mor bwysig o löynnod byw sydd i’w gweld o amgylch Aber Afon Dyfrdwy yn cynnwys Gweirlöyn y Cloddiau sydd wedi’i enwi’n briodol ar ôl ei arfer o dorheulo ar waliau, creigiau a mannau caregog, sy’n golygu bod y rhan yn Sir y Fflint o Lwybr Arfordir Cymru yn llecyn perffaith i’w weld. Mae'r Gwibiwr Llwyd yn olygfa brin ond cadwch lygad amdano oherwydd rydyn ni’n cael adroddiadau amdano o amgylch Aber Afon Dyfrdwy.
Yn olaf mae’n rhaid i ni sôn am y Gweirlöyn Llwyd, sef glöyn byw llwyd mwyaf y DU a rhywogaeth bwysig ar gyfer prosiect Caru Aber Dyfrdwy. Er ei faint a'i enw da am fod yn gryf am hedfan, mae i'w weld yn aml ar y ddaear yn torheulo gyda'i adenydd ar gau! Y lle gorau i weld y glöyn byw yma sydd dan fygythiad yw ymhellach i fyny llwybr yr arfordir yn Nhalacre yn torheulo ac yn bwydo ar flodau Celyn y Môr o fewn y twyni tywod. Mae Butterfly Conservation angen llygaid ychwanegol bob amser ar gyfer eu harolygon ac i fonitro glöynnod byw ledled y DU.
Mae’r tymor rydyn ni’n ei gysylltu fwyaf â glan y môr yn amser gwych hefyd i ymweld ag Aber Afon Dyfrdwy. Mae aberoedd yn rhyfeddodau naturiol lle mae afonydd yn cwrdd â’r môr ac mae gan Aber Afon Dyfrdwy un o’r ystodau llanwol mwyaf eithafol yn unrhyw le yn y DU. Mae hyn yn creu ffenomen naturiol hynod ddiddorol o’r enw ton lanw.
Dyma lle mae’r llif llanwol yn cwrdd â’r afon dŵr croyw ac mae’r llanw mor gryf fel ei fod yn anfon ton i fyny’r afon i’r cyfeiriad ‘anghywir’. Mae llawer o amrywiadau a all ddylanwadu ar weld ton lanw ond yr elfen allweddol yw lefel y penllanw ym Mae Lerpwl yn Noc Gladstone. Os yw'r penllanw yn 9 metr neu'n uwch mae siawns dda y bydd ton lanw i'w gweld yn y darn syth o'r aber rhwng Queensferry a Saltney. Mae’r ardal hon yn hawdd ei chyrraedd gan fod Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg yn union ar hyd ochr yr afon o Saltney i Shotton.
Yr enw ar y digwyddiadau penllanw yma yw llanwau mawr neu orlanwau - a spring tide yn Saesneg, ond nid oherwydd yr adeg o'r flwyddyn pryd maen nhw’n digwydd, ond yn hytrach oherwydd y cylch lleuadol a'r cyhydnos. Mae Cyhydnos y Gwanwyn yn digwydd rhwng misoedd Chwefror, Mawrth ac Ebrill ac mae Cyhydnos yr Hydref yn digwydd drwy gydol misoedd Awst a Medi ac i mewn i fis Hydref, felly yr haf yw'r amser gorau i chi gynllunio eich taith gerdded ar hyd yr aber i weld y don lanw pan fydd yn cyrraedd yn yr hydref.
Os hoffech chi ddysgu mwy am Aber Afon Dyfrdwy cyn mynd allan i'w archwilio, gallwch wylio’r sylw i gynllun Caru Aber Dyfrdwy ar ITV Wales Coast & Country, Cyfres 10: Pennod 10 | Rhaglen Cymru (itv.com) yn 2022 yn arddangos gwaith ein partneriaid ni ar ochr Cymru i’r aber.
Mae’r hydref yn arwydd o ddyfodiad llawer o rywogaethau o adar rhydio ac adar dŵr sy’n mudo i Aber Afon Dyfrdwy bob blwyddyn i fwydo ar ei filiynau o falwod a mwydod mân a’r miliynau o gocos a chregyn gleision sydd wedi’u claddu yn y 15,000 o hectarau o dywod a llaid. Amseru yw popeth gan mai dim ond yn ystod y symudiad llanwol ddwywaith y dydd mae llawer o'r bwyd yma ar gael. Mae’r heidiau enfawr yn dilyn llinell y dŵr ac yn manteisio ar bob cyfle i bigo’r cocos, y mwydod a’r malwod cyn iddyn nhw gladdu eu hunain yn ddwfn yn y gwastadeddau llaid pan mae’r dŵr ar drai, neu fynd i mewn i’r golofn ddŵr i ddechrau bwydo eu hunain. Darllen am y diwylliant cocos yn Aber Afon Dyfrdwy
Gallwch glywed cri sawl aderyn ar Aber Afon Dyfrdwy yn ystod misoedd yr Hydref. Rydyn ni wedi recordio rhai ohonyn nhw i'ch helpu chi i'w hadnabod ar eich teithiau cerdded ar hyd y llwybr. Bydd clicio ar y dolenni isod yn mynd â chi i wefan British Birdsong lle gallwch chi glywed yr adar yn canu drosoch chi’ch hun.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn llecyn gwych i weld yr olygfa hon ac mae llawer o ffyrdd y gallwch chi gyrraedd yno. Mae adfeilion Castell y Fflint yn lleoliad perffaith i wyliwr adar dibrofiad hogi ei sgiliau a dim ond 7 munud ar droed o Orsaf Drenau’r Fflint ydi’r lleoliad, neu mae dau faes parcio ar gael, y cyntaf rhwng y Castell a Gorsaf Bad Achub yr RNLI ar Stryd Clawdd y Castell ac mae'r ail ymhellach ar hyd Stryd Clawdd y Castell yn nes at y Castell ei hun.
Os ydych chi’n bwriadu mynd am dro, mae’r darn o’r llwybr rhwng y Fflint a Maes Glas yn lle gwych i ddechrau gan ei fod yn gymharol wastad ac yn cymryd tua 1 awr a 40 munud i gerdded y 4.5 milltir gyda gwasanaethau bws niferus yn rhedeg rhwng y ddau leoliad. Os hoffech chi fynd ychydig ymhellach gyda llwybr 6 milltir / 10km gallwch gerdded o Gastell y Fflint i Abaty Dinas Basing.
Tra rydych chi allan yn cerdded gallwch hefyd gyfrannu at wyddoniaeth y dinesydd arloesol drwy brosiect CoastSnap
Erbyn y gaeaf gall niferoedd y poblogaethau o adar rhydio ac adar dŵr ar yr aber fod yn fwy na 120,000 o adar. Dyma ychydig o rywogaethau y gallwch chi eu gweld wrth ymweld â’r aber yn y gaeaf ond bydd arnoch angen sbienddrych i adnabod llawer ohonyn nhw.
Mae’r Bioden Fôr eiconig yn un aderyn na fydd arnoch angen sbienddrych i’w weld efallai gan fod gan yr aderyn rhydio du a gwyn trawiadol yma big, coesau a thraed oren llachar hefyd. Mae Aber Afon Dyfrdwy yn gartref i boblogaeth fawr o Bïod y Môr gan mai cocos yw eu hoff fwyd ac mae gan yr aber 9 gwely cocos sydd wedi hen sefydlu yma. Dysgu mwy am Bïod y Môr a’u cri nodedig
Mae mwy na 50,000 o Hwyaid yr Eithin yn mudo yma bob blwyddyn o Fôr Wadden oddi ar arfordir yr Almaen lle maen nhw'n treulio'r haf yn bwrw ac yn aildyfu eu holl blu sy'n eu gadael yn methu hedfan ac yn agored i niwed am gyfnod sylweddol o amser. Yma ar Aber Afon Dyfrdwy maen nhw'n treulio'r gaeaf yn bwydo ac yn mwynhau cynhesrwydd cymharol a gwarchodaeth y cynefin aberol. Dysgu mwy am hwyaid yr eithin a gwrando ar eu cri
Mae poblogaeth sylweddol yn fyd-eang o’r Rhostog Gynffonddu yn mudo hefyd i’r DU o Wlad yr Iâ gyda dim ond llond llaw o adar yn aros yn y DU drwy gydol y flwyddyn. Dysgu mwy am y rhostog gynffonddu a gwrando ar ei chri
Ymhlith y rhywogaethau eraill i gadw llygad amdanyn nhw mae Cwtiad y Traeth, Pibydd y Mawn, y Pibydd Torchog, Pibydd y Dorlan a’r Pibydd Gwyrdd, y Pibydd Coesgoch Mannog a’r Pibydd Coeswyrdd i enwi dim ond rhai.
Mae'r adar yma’n agored i darfu gan weithgarwch ger eu mannau bwydo a chlwydo felly os hoffech chi helpu i'w diogelu, dyma rai o'r ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan.
Mae Caru Aber Dyfrdwy yn brosiect partneriaeth trawsffiniol sy’n gweithio gyda llawer o wahanol sefydliadau a grwpiau gwirfoddol i helpu i leihau tarfu ar fywyd gwyllt ar Aber Afon Dyfrdwy. E-bostiwch y tîm yn Caru Aber Dyfrdwy os hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect.
Mae gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn ffordd wych o ddod yn agos at natur ac Aber Afon Dyfrdwy gan fod ganddynt warchodfa natur, Big Pool Wood, sy’n agos at Draeth Gronant. Mae’r berl gudd yma’n cael gofal gan grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr sydd bob amser yn chwilio am bobl newydd i ymuno â nhw.
Mae’r grŵp yma i aelodau yn unig wedi’i leoli rhwng Cei Connah ac Oakenholt. E-bostiwch y grŵp am fwy o fanylion
Mae’r grŵp gweithgar, cymdeithasol ac ymroddedig yma o wirfoddolwyr yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Penrhyn Cilgwri i fonitro nifer ac ymddygiad yr adar ar yr aber yn West Kirby. E-bostiwch y Tîm Wardeiniaid am fwy o fanylion
Mae pencadlys tîm RSPB Aber Afon Dyfrdwy yng Ngwlybdiroedd Cors Burton ond maen nhw’n gweithio ar draws Aber Afon Dyfrdwy i gyd, gan gynnwys yng Nghymru yn Nhalacre a’r Parlwr Du, dau safle hygyrch o Lwybr Arfordir Cymru. Cysylltwch â thîm Aber Afon Dyfrdwy – Gwlybdir Cors Burton am unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli.
Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw ymgolli ym myd natur i’n lles ac mae gadael technoleg fodern yn y tŷ yn rhan fawr o hynny, fodd bynnag mae rhywfaint o dechnoleg a all wella eich profiad drwy adnabod y planhigion a’r anifeiliaid y gallwch chi eu gweld a’u clywed o’ch cwmpas.
Dyma rai yn unig o’r apiau ffôn clyfar (pob un ar gael ar gyfer ffonau clyfar iPhone ac Android) y gallwch chi eu defnyddio i’ch helpu i archwilio’r byd naturiol ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.
Mae'r holl recordiadau o gri adar sy'n cael sylw yn y blog yma wedi dod o British Bird Songs UK. Gallwch hefyd lawrlwytho ap British Bird Songs UK yn uniongyrchol o’u gwefan, sy’n addas ar gyfer ffonau clyfar a gliniaduron.