Llonyddwch

Yn ogystal â chael cyfle i ddianc oddi wrth y byd a’i bethau wrth grwydro’r llwybr ei hunan, mae nifer o ffyrdd eraill i ddianc gerllaw’r llwybr

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Beth bynnag yw “dianc” i chi - cael eich pampro mewn gwesty moethus neu fyw ar eich pen eich hunan yn y gwyllt, dyma’ch cyfle.

Arfordir y Gogledd ac Aber Afon Dyfrdwy

Does unman gwell am ychydig o foethusrwydd na Bodysgallen Hall & Spa, Llandudno. Mae’r gwesty mewn parcdir hardd ac mae’r gerddi’n cynnwys parterre prin o lwyni bocs o’r 17eg ganrif a nifer o ffolïau.

Ynys Môn

Codwyd Tre-Ysgawen Hall ar Ynys Môn yn 1882 yn wreiddiol. Erbyn hyn, mae wedi’i adnewyddu a’i ehangu ac mae’n westy moethus ar ben draw dreif goediog. Cafodd y stablau o Oes Fictoria eu troi’n fwyty a sba.

Menai, Llŷn a Meirionnydd

Un ffordd o ddianc rhag y byd a’i bethau fyddai dilyn ôl troed y pererinion gynt i Ynys Enlli – ynys yr 20,000 o saint – oddi ar Ben Llŷn. Bu pererinion yn encilio yno ers dechreuadau Cristnogaeth.

Ceredigion

Yn ôl rhai, does dim yn well i’ch helpu i ymlacio na phrynhawn o bysgota ar rannau isaf afonydd Teifi, Aeron, Rheidol ac Ystwyth. Hyd yn oed os na ddaliwch chi ddim, cewch fwynhau’r golygfeydd.

Sir Benfro

Cewch anghofio am bwysau bywyd bob dydd wrth dreulio noson ar ynys Sgomer, oddi ar Sir Benfro, yng nghwmni gwahanol fathau o balod. Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru sy’n gofalu am yr amgylchedd unigryw hwn.

Mae’r amser yn hedfan fel y gwynt wrth i chi archwilio pyllau yn y creigiau. Gallwch ei wneud ar eich pen eich hunan neu gyda chwmni a byddwch yn siŵr o weld rhywbeth diddorol. Mae’n well archwilio’r pyllau pan fydd y môr ar drai gan y gwelwch fwy o greaduriaid anghyffredin. Ond gwyliwch rhag cael eich dal gan y llanw. Weithiau, mae arbenigwyr yn rhoi cyflwyniad i’r maes.

Sir Gaerfyrddin

Mae rhai o adfeilion hynafol Sir Gaerfyrddin wedi’u cadw mor dda, mae fel dianc i’r oes o’r blaen. Cewch eich hudo ganGastell Carreg Cennen wrth i chi ddringo at y rhagfuriau a godwyd tua diwedd y 13eg ganrif. Oddi yno, cewch fwynhau golygfeydd panoramig o hyd at 60 milltir. O’r castell, mae llwybr tanddaearol yn arwain i ogof naturiol ymhell o dan y gaer lle credir bod pobl yn byw yn y cyfnod cynhanesyddol.

Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe

Os mai ymlacio yw’r nod, Parc Margam yw’r lle i chi. Mae iddo hanes diddorol, bywyd gwyllt a harddwch naturiol. Paciwch bicnic a dewis coeden ddeiliog i eistedd yn ei chysgod i fwynhau’r awyrgylch. Mae digon i’w weld yno hefyd – gerddi addurnol, llwybr antur gwifrau uchel a thaith fferm bridiau prin.

Arfordir y De ac Aber Afon Hafren

Os ydych yn chwilio am wyliau bach rhamantus, anghysbell, rhowch gynnig ar Oleudy West Usk ger Casnewydd. Gallech fwynhau gwely a brecwast mewn ystafelloedd siâp lletem yn y goleudy a godwyd yn 1821 yn edrych dros Fôr Hafren.

Cewch fwynhau byd natur yng Nghelfan Wledig Coed Hills ym Mro Morgannwg. Mae hon yn un o brif ganolfannau Cymru ar gyfer byw’n gynaliadwy a’r celfyddydau creadigol. Mae gweithdai celf, gerddi permaddiwylliant, melin goed a chyfleusterau gwaith coed gwyrdd yn dangos sut i ddefnyddio’r tir mewn ffordd ecogyfeillgar a sut i fyw heb effeithio llawer ar yr amgylchedd.