Llety
Gwybodaeth ddefnyddiol er mwyn dod o hyd i leoedd aros ar hyd y llwybr
Mae llawer o wahanol fathau o leoedd aros ar hyd Llwybr Arfordir Cymru sydd at ddant pawb ac sy'n addas ar gyfer pob cyllideb.
Yr hyn na allwn ei gynnig
Nid oes gennym restr o'r holl leoedd aros ar Lwybr Arfordir Cymru ar ei hyd. Mae hyn oherwydd natur newidiol y ddarpariaeth gydol y flwyddyn.
Nid ydym yn cymeradwyo nac yn argymell unrhyw fusnesau unigol a restrir ar y dudalen hon.
Ni allwn eich helpu i drefnu ymweliad â'r llwybr.
Yr hyn y gallwn ei gynnig
Yn hytrach, rydym wedi llunio rhestr o wefannau defnyddiol lle gallwch ddod o hyd i lety ar hyd yr arfordir. Ni fwriedir iddi fod yn rhestr gyflawn, ond yn hytrach, yn lle y gellir dechrau chwilio am lety. Mae'r rhestr yn seiliedig ar rannau o'r llwybr. Ynddi ceir gwybodaeth am wefannau sydd wedi'u hanelu at ymwelwyr a phobl leol am leoedd i aros, bwyta ac yfed yn yr ardal.
Mae opsiwn hefyd i gael cwmni i archebu eich llety a threfnu i gludo eich bagiau - ewch i'n Tudalen Cymorth gyda Chludo am restr o ddarparwyr.
Gallwch ddefnyddio'r map rhyngweithiol i weld i ble mae'r llwybr yn mynd er mwyn eich helpu i gynllunio eich arhosiad.
Arfordir Gogledd Cymru ac Aber Afon Dyfrdwy
Mae'r rhan hon yn mynd o'r ffin â Chaer yn Lloegr at ddinas prifysgol Bangor (81 milltir).
Go North Wales yw gwefan dwristiaeth gogledd Cymru lle ceir dolenni i amrywiaeth o leoedd aros, gan gynnwys lleoliadau gwersylla, gwely a brecwast a gwestai.
Ar wefan Cymdeithas Twristiaeth Sir y Fflint ceir gwybodaeth am leoedd aros megis gwely a brecwast, lleoliadau glampio a meysydd carafanau teithiol.
Mae'r wefan Dewch i Gonwy yn cwmpasu sir Conwy i gyd.
Ynys Môn
Mae llwybr cylchol naturiol Ynys Môn yn 135 milltir o hyd.
Hwb gwybodaeth yw Discover Anglesey a gaiff ei redeg gan Gymdeithas Twristiaeth Ynys Môn. Yma ceir gwybodaeth ddefnyddiol am leoedd aros, gan gynnwys gwestai, gwely a brecwast, lleoedd hunanarlwyo, carafanau, meysydd gwersylla a glampio. Ceir gwybodaeth hefyd am leoedd bwyta ac yfed.
Mae'r wefan Go North Wales yn cwmpasu gogledd Cymru i gyd, gan gynnwys Ynys Môn.
Llŷn ac Arfordir Eryri
Mae'r rhan hon yn mynd o ddinas prifysgol Bangor, gan gwmpasu Penrhyn Llŷn yng Ngwynedd, ac yn gorffen ym Machynlleth yn Sir Powys (167 milltir).
Ymweld ag Eryri - Mynyddoedd a Môr yw gwefan dwristiaeth swyddogol Gwynedd.
Yma ceir gwybodaeth ddefnyddiol am hundai, gwely a brecwast a lleoedd glampio yn Eryri a Llŷn, gogledd Cymru. Defnyddiwch yr hidlydd chwilio er mwyn dod hyd i lety sy'n agos at y llwybr.
Mae Go North Wales yn cwmpasu gogledd Cymru i gyd, gan gynnwys Penrhyn Llŷn
Twristiaeth Canolbarth Cymru yw gwefan dwristiaeth swyddogol Canolbarth Cymru. Mae'n cwmpasu gogledd Powys, arfordir Ceredigion a de Eryri.
Ceredigion
Mae'r rhan hon yn cychwyn o Fachynlleth ac yn gorffen yn Nhraeth Poppit Sir Benfro (75 milltir).
Darganfod Ceredigion - gwefan dwristiaeth swyddogol sir Ceredigion.
Twristiaeth Canolbarth Cymru yw gwefan dwristiaeth swyddogol y Canolbarth, sy'n cwmpasu gogledd Powys, arfordir Ceredigion a de Eryri. Dewiswch le i aros, o feysydd carafanau a gwersylla i wely a brecwast ar eu map rhyngweithiol. Mae'r wefan hefyd yn cwmpasu rhan Ceredigion o'r llwybr
Mae'r wefan Twristiaeth Pumlumon hefyd yn cwmpasu rhan Ceredigion o'r llwybr.
Sir Benfro
Mae’r rhan boblogaidd hon o’r llwybr yn Llwybr Cenedlaethol hefyd. Mae'n cychwyn yn Nhraeth Poppit ac yn gorffen yn Amroth (182 milltir).
Ymweld â Sir Benfro - Gwefan swyddogol Sir Benfro er mwyn dod o hyd i wybodaeth dwristiaeth.
Mae gan wefan y Llwybrau Cenedlaethol restr o leoedd i aros yn Sir Benfro. Mae rhestr o leoedd aros, o Landudoch i Freshwater West, wedi'i rhannu'n 10 rhan o ran Sir Benfro o'r llwybr.
Penrhyn Gŵyr ac Abertawe
Mae'r rhan hon yn mynd o Fynea at Rostir Margam ac mae'n 69 milltir o hyd.
Croeso Bae Abertawe yw gwefan dwristiaeth swyddogol dinas glan môr Abertawe a Phenrhyn byd-enwog Gŵyr.
Arfordir De Cymru ac Aber Afon Hafren
Mae’r darn 97 milltir hwn yn cychwyn o Rostir Margam ac yn cynnwys arfordir Treftadaeth Morgannwg, gyda golygfeydd o Aber Afon Hafren ac arfordir de-orllewin Lloegr. Byddwch yn mynd heibio cyrion Caerdydd, prifddinas Cymru yr holl ffordd at Gas-gwent, sef man mwyaf deheuol y llwybr yn swyddogol.
Mae gwefan Calon Ddramatig.Cymru yn cwmpasu sir Castell-nedd Port Talbot.
Mae'r wefan De Cymru yn cwmpasu Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Casnewydd, Sir Fynwy a Bro Morgannwg.
Ymwelwch â Sir Fynwy yw gwefan dwristiaeth swyddogol Sir Fynwy, lle mae’r llwybr yn cyrraedd Cas-gwent – man mwyaf deheuol y llwybr yn ne Cymru.
Mae'r wefan Ymweld â'r Fro yn cynnwys arfordir Treftadaeth Bro Morgannwg i gyd.
Llety sy'n addas ar gyfer yr anabl
Mae gan Croeso Cymru restrau o leoedd aros hygyrch ledled Cymru sy'n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a rhai â symudedd cyfyngedig.
Croeso Cymru
Dyma safle twristiaeth swyddogol Cymru. Ceir yma wybodaeth am yr holl leoedd aros sydd wedi'u graddio gan Croeso Cymru, o wely a brecwast a hosteli i wersylloedd.
Llety Awyr Agored
Mae'r math hwn o lety yn cynnwys meysydd gwersylla, glampio a charafanau.
Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio meysydd gwersylla swyddogol ac yn archebu ymlaen llaw lle bo modd, yn enwedig yn ystod misoedd prysuraf y flwyddyn – o fis Ebrill tan fis Hydref fel arfer.
Mae Pitchup.com yn wefan lle gellir dewis lle i aros o blith 5,000 o feysydd gwersylla, glampio a pharciau gwyliau ledled y DU, Ewrop a chyfandir America.
UKCampsite.co.uk yw'r gyrchfan ar-lein ar gyfer carafanwyr a gwersyllwyr.
Mae Campsites.co.uk yn wefan lle gallwch ddod o hyd i safleoedd gwersylla, glampio a theithio yn y DU.
Gwersylla gwyllt
Mae gwersylla gwyllt yn rhoi'r cyfle i chi chwilio y tu hwn i feysydd gwersylla confensiynol a dewis ble rydych chi'n treulio'r nos. Ni chaniateir hyn yng Nghymru a Lloegr – oni bai eich bod yn cael caniatâd perchennog y tir cyn gosod eich pabell.
Os byddwch yn cael caniatâd perchennog y tir, peidiwch â gadael unrhyw beth ar eich hôl a dilynwch y Côd Cefn Gwlad i Barchu, Gwarchod a mwynhau eich amser yn yr awyr agored.
Hosteli
Mae gan y wefan Independent Hostels amrywiaeth o hosteli a hundai y gallwch ddewis ohonynt, sy'n ffordd wych o brofi Llwybr Arfordir Cymru am bris rhesymol.
YHA Cymru (Cymdeithas Hostel Ieuenctid Cymru) - Dyma'r Gwestai YHA, sef hosteli sydd ar agor yn ystod y tymor prysuraf yng Nghymru, gydag ystafelloedd preifat a/neu ystafell gysgu i fwy o bobl.
YHA Conwy
YHA Bwthyn Idwal
YHA Yr Wyddfa Llanberis
YHA Traeth Poppit
YHA Pwll Deri
YHA Tyddewi
YHA Aberllydan
YHA Maenorbŷr
YHA Porth Einion
YHA Bannau Brycheiniog
YHA Bannau Brycheiniog Danywenallt
YHA Llanddeusant
YHA Llangatwg
YHA Gŵyr*
*Penwythnosau yn unig
Gwefannau trydydd parti
Gallwch chwilio am lety ar hyd y llwybr ar y gwefannau hyn.
Cymuned Facebook Llwybr Arfordir Cymru
Cymuned ar-lein ar gyfer aelodau yn unig yw hon i bobl sydd ag awydd cerdded Llwybr Arfordir Cymru.
Ymunwch â Chymuned Llwybr Arfordir Cymru ar Facebook
Gallwch wneud cais i ymuno (am ddim) a gofyn am argymhellion am leoedd i aros ar hyd y llwybr. Sylwch, ni chaniateir i fusnesau sydd i'w canfod ar hyd y llwybr hyrwyddo eu hunain ar y grŵp.