Teithiau cerdded i archwilio'r ardal - Bae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr

Dyma rai o'n hoff deithiau cerdded ac argymhellion sy'n dangos y gorau o arfordir Cymru

Cefn Sidan Sir Gâr Phil Fitzsimmons

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Teithiau cerdded byr

Ffynnon Sant Antwn i Lansteffan
Llai na milltir / 1.6 km

Mae’r rhan hon o’r llwybr yn dilyn gwaelod y clogwyni tywodfaen coch hynafol ac yn pasio islaw castell Eingl-Normanaidd Llansteffan sy’n edrych i lawr dros afon Tywi. Darganfod mwy am y daith gerdded yma:Ffynnon Sant Antwn i Lansteffan.

Y Werle i Ffynnon Sant Antwn
Tua milltir / 1.6 km

Wrth gerdded yma fe gewch olygfeydd anhygoel o’r ddwy ochr i Fae Caerfyrddin a’r tu hwnt. Mae’r llwybr yn dilyn ymylon clogwyni lle mae coed a phrysgwydd yn tyfu. Darganfod mwy am y daith gerdded yma Y Werle i Ffynnon Sant Antwn

Cei Cydweli
Cylchdaith milltir o hyd / 1.6 km

Mae’r cei’n lle poblogaidd i wylio adar. Cewch olygfeydd ardderchog o’r dref oddi yno. Mae Camlas Kymer gerllaw yn un o’r rhai cynharaf yng Nghymru. Darganfod mwy am a y daith gerred yma Cei Cydweli (edrychwch am gerdded "Camlais a Chei" ar y map)

Llansteffan
1.5 milltir / 2.5 km

Llwybr sy’n cynnig golygfeydd ardderchog o Fae Caerfyrddin a’r môr y tu hwnt. Mae’n croesi brigau’r clogwyni sydd dan garped o goed a phrysgwydd. Mae llawer o adar môr yn treulio’r gaeaf yn y bae ei hun, sy’n ei wneud yn safle pwysig ac yn sail i’w ddynodi fel yr Ardal Gwarchodaeth Arbennig gyntaf yn y Deyrnas Unedig.

Talacharn (rhwng cartref Dylan Thomas a fferm Salt House)
1.75 milltir / 2.75 km 

Oedwch yn Nhalacharn i archwilio’r pentref cyn dringo bryn serth Sant Ioan i weld golygfeydd da o’r ardal. Byddwch yn dod at gastell Talacharn a’r tŷ cychod enwog lle y cafodd Dylan Thomas, y bardd enwog, ei ysbrydoli.

Porth Tywyn i Lanelli
4.25 milltir / 6.75 km 

Mae’r arfordir ar hyd glan ogleddol aber Afon Llwchwr wedi cael ei drawsnewid yn gasgliad unigryw o atyniadau i dwristiaid, cynefinoedd i fywyd gwyllt a chyfleusterau hamdden. Parc Arfordirol y Mileniwm yw’r enw ar yr ardal, ac mae’r llwybr yn addas hefyd i feicwyr a phobl mewn cadeiriau olwyn. (Trên a Bws)

Ble arall alla i gerdded llwybr arfordir Cymru ym Mae Sir Gâr?

Am fwy o wybodaeth am ble i gerdded llwybr arfordir Cymru yn Sir Gâr, ewch i wefan Darganfod Sir Gâr.

Bae Langland i Fae Caswell
2 filltir / 3.2 km

Cyfle i ddod i adnabod dau o faeau harddaf Penrhyn Gŵyr. Darganfod mwy am a daith gerred yma o Fae Langland i Fae Caswell.

‘Mynd i Gerdded ar y Bws’ i Lanmadog
2 filltir / 3.2 km

Dyma un o’r teithiau Mynd i Gerdded ar y Bws a geir yn yr ardal. Ewch ar y bws i Lanmadog a mwynhau harddwch gogledd Penrhyn Gŵyr. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Twyni Whiteford ac eglwys ganoloesol Llanmadog. Mae’n lle da i bobl sy’n gwylio adar a bywyd gwyllt a gellir mwynhau’r golygfeydd dros aber afon Llwchwr.  Darganfod mwy am a daith gerdded yma ‘Mynd i Gerdded ar y Bws’ i Lanmadog.

Rhosili i Fae Mewslade
3 milltir / 4.8 km

Tro pert ym mhen gorllewinol Penrhyn Gŵyr. Cafodd ei ddewis gan y Cerddwyr fel un o’r deg uchaf o’r llwybrau cerdded arfordirol yn y Deyrnas Unedig. Darganfod mwy am a daith gerdded yma Rhosili i Fae Mewslade.

Promenâd ar hyd Bae Abertawe
3-4 milltir / 4.8-6.4 km

Cewch fwynhau golygfeydd ar draws y bae i Drwyn y Mwmbwls wrth gerdded ar hyd promenâd enwog Bae Abertawe (llwybr rheilffordd gyntaf y byd i deithwyr). Ar ôl cyrraedd y Mwmbwls, prynwch hufen iâ yn wobr i chi’ch hunan. Os bydd gorsaf y bad achub ar agor, mae’n werth mynd i mewn i ddysgu am waith pwysig ac arwrol yr RNLI yn achub bywydau ar y môr yma a thrwy Brydain.  Darganfod mwy am a daith gerdded yma ar hyd a Promenâd Bae Abertawe.

Port Einon i Trwyn Oxwich
4.5 milltir / 7. 25km 

Bydd y llwybr yma’n mynd â chi drwy goetiroedd ac ar hyd clogwyni agored. Dau o uchafbwyntiau’r daith yw Castell Oxwich a godwyd yn yr 16eg ganrif ac Eglwys Illtyd Sant o’r 13eg ganrif.  Darganfod mwy am a daith gerdded yma Trwyn Oxwich (edrychwch am Llwybrau Arfordir Gŵyr - Trwyn Oxwich")

Teithiau cerdded hir

Glanyfferi i Gydweli
5.25 milltir / 8.5 km 

Mae’r rhan yma o’r Llwybr yn croesi tir dymunol y cefn gwlad i mewn o’r môr, ond mae golygfeydd gwych oddi yno ar draws aberoedd tair afon a Phenrhyn Gŵyr. Y castell canoloesol mawreddog yw’r prif atyniad yng Nghydweli. (Trên a Bws)

Amroth i Bentywyn
5.5 milltir / 9 km

Ychydig iawn o bobl sy’n gwybod am y rhan hyfryd yma o’r arfordir. Tirwedd o glogwyni syfrdanol sydd yno, ynghyd â thraethau tebyg iawn i’r rhai yn Sir Benfro. Mae gan Draeth Pentywyn hanes cyffrous o bobl yn ceisio torri’r record cyflymder yno. (Bws)

Cei Cydweli i Ben-bre
6 milltir / 9.7 km

Tro ar hyd glan aber afon Gwendraeth. Gellir cerdded ar hyd morglawdd Banc y Lord i Goedwig Pen-bre sy’n warchodfa natur a reolir gan y Comisiwn Coedwigaeth. Plannwyd y goedwig ar dwyni tywod. Pinwydd Corsica sy’n tyfu yno’n bennaf ond ceir rhai coed collddail. 

Trefenty i Lansteffan
7.5 milltir / 12 km

I’r de o fferm Trefenty, mae adfeilion hen, hen eglwys. Y gred oedd mai pererinion sy’n gorwedd yn y beddau canoloesol. Mae’n werth gweld y cerrig beddi cerfiedig sy’n darlunio pobl ond mae gwaith ymchwil modern yn awgrymu mai perchnogion tir lleol o’r canoloesoedd ydyn nhw yn hytrach na phererinion. 

Porth Tywyn i Gasllwchwr
7.5 milltir / 12 km

Mae’r rhan hon yn dilyn Parc Arfordir y Mileniwm ar gyrion Llanelli, tref a dyfodd o ganlyniad i gloddio ac allforio glo, mwyndoddi copr ac, yn enwocaf oll, gwneud tunplat.

Cydweli i Borth Tywyn
9.25 milltir / 14.75km 

Llwybr drwy Goedwig Pen-bre, gwarchodfa natur yng ngofal y Comisiwn Coedwigaeth. Coed pinwydd Corsica yn bennaf sy’n tyfu yn nhywod y twyni, ond mae rhai coed collddail yn tyfu mewn mannau hefyd. Ymlaciwch ym Mharc Gwledig Pen-bre ac ewch am dro i draeth Cefn Sidan. (Trên a Bws)

Oxwich i Glogwyni Pennard
5.25 milltir / 8.25 km

Tro eithaf hawdd ar hyd traethau tywodlyd agored sy’n cynnig golygfeydd gwych o Fae’r Tri Chlogwyn, lle eithriadol o hardd. Gallwch ddewis sgrialu i fyny rhai o’r creigiau mewn mannau. (Bws)

Y Mwmbwls i Abertawe
5.75 milltir / 9.25 km 

Wrth archwilio’r ardal, beth am brynu hufen iâ yn y Mwmbwls fel gwobr? Os bydd gorsaf y bad achub ar agor, mae’n werth mynd i mewn i ddysgu am waith pwysig gweithwyr dewr yr RNLI sydd wedi achub bywydau llawer o bobl ar y môr ym mhob rhan o Brydain. Gallwch fwynhau’r golygfeydd ar draws y bae i Drwyn y Mwmbwls wrth gerdded mewn i’r ddinas ar hyd promenâd enwog Abertawe (lle’r oedd y rheilffordd gyntaf yn y byd i gludo teithwyr). (Bws)

Llwybr Arfordir Rhosili’r RSPB
6 milltir / 9.6 km

Taith egnïol yn un o ardaloedd mwyaf ysblennydd Cymru. O’r llwybr fe welwch glogwyni dramatig, traeth hardd, bryniau tonnog a’r arfordir gwyllt. Mae llu o wahanol adar i’w gweld yma drwy’r flwyddyn.  Darganfod mwy am y daith gerdded Llwybr Arfordir Rhosili’r RSPB.

Llanmadog i Rosili
6.75 milltir / 10.75 km

Taith gerdded ar hyd ymyl gorllewinol y penrhyn, cyn mynd heibio i Fae Brychdwn, ynys Burry Holms a Bae Rhosili ar ei hyd. Os bydd y llanw’n caniatáu, gallwch ddewis cerdded ymhellach i drwyn y penrhyn ym Mhen Pyrod. (Bws ar y Sul yn unig).

Abaty Margam i Faglan
7 milltir

I weld yr arfordir ar ei orau, mae’r llwybr hwn yn eich tywys ar hyd y clogwyni tal sy’n edrych dros Bort Talbot. Cewch olygfeydd gwych o Fôr Hafren a chyfle ardderchog i weld sut y mae diwydiant wedi ymgartrefu ar lan y môr. Mae olion diddorol i’w gweld ar y ffordd, gan gynnwys adfeilion Eglwys Fair. Darganfod mwy am y daith gerdded o Abaty Margam i Faglan.

Rhosili i Bort Einon
7.5 milltir / 11.75 km

Mae’r llwybr yma’n dilyn darn o’r arfordir lle mae cyfoeth o fywyd gwyllt mewn tirwedd amrywiol a thrawiadol. Mae’n mynd drwy dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n anghysbell, garw a gwyllt mewn sawl man. Cafodd Bae Port Einon ei ddewis yn 2011 fel traeth gorau Prydain. (Bws).  Darganfod mwy am a y daith gerred yma o Rhossili i Bort Eynon.

Llanrhidian i Cheriton ac yn ôl
8 milltir / 12.9 km

Mae’r llwybr yn dilyn tirwedd donnog, yn agos at lefel y môr am y rhan fwyaf o’r ffordd. Mae llethr serth yn Bovehill ac weithiau, ar lanw uchel, mae rhannau o’r llwybr o dan ddŵr. Darganfod mwy am a daith gerdded o Llanrhidian i Cheriton ac yn ôl (edrychwch am "Llwybr Arfordir Gŵyr - Llanrhidian i Cheriton ac yn ôl").