Pethau i’w gwneud - Bae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr

Nid cerdded yw’r unig beth y gallwch ei wneud.  Yn ogystal â’r llu o gyfleoedd i gerdded y soniwn amdanynt yn yr adran Crwydro Llwybr yr Arfordir, mae llawer o bethau eraill i’w gweld a’u gwneud ar hyd y Llwybr

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cymerwch gip yma i chi gael gweld pam y mae hwn yn lle mor ardderchog i dreulio amser yn yr awyr agored a pha mor hawdd yw defnyddio Llwybr yr Arfordir yn eich bywyd bob dydd neu ar eich gwyliau.

Canolfan Gwlyptiroedd Cenedlaethol Cymru

Dewch i ganolfan y WWT (yr ymddiriedolaeth dros wlyptiroedd ac adar dŵr) ger Llanelli i seiclo, cerdded neu ganŵio hyd yn oed, ac i weld bywyd gwyllt ar ei orau.

Cartref Dylan Thomas yn Nhalacharn

Archwiliwch gartref y Cymro enwog. Lleoliad trawiadol a roddodd gryn ysbrydoliaeth iddo.

Cestyll Talacharn, Llansteffan a Chydweli

Tri adfail hudol mewn lleoliadau hyfryd sy’n cynnig golygfeydd o Fae Caerfyrddin ac aberoedd yr afonydd.

Parc Arfordirol y Mileniwm

Llwybr pwrpasol i gerddwyr a beicwyr ar hyd aber Afon Llwchwr, gyda chanolfan i ymwelwyr yn Llanelli.

Traeth Aberafan

Mae dwy filltir o bromenâd gwastad ar lan y môr, ynghyd â thraeth tywodlyd eang a golygfeydd gwych dros Fae Abertawe tua Phenrhyn Gŵyr. Mae Traeth Aberafan yn lle delfrydol i wylio’r haul yn machlud.

Pen Pyrod

Yr enw Saesneg ar y darn yma o’r penrhyn yw Worm’s Head, sy’n tarddu o’r ffaith fod y tir yn debyg i ddraig sy’n gorwedd. Mae’n safle eiconig, ac mae’r olygfa orau ohono o Fae Rhosili. 

Goleudy Trwyn Whiteford

Mae’r tonnau’n torri’n gyson dros y goleudy haearn bwrw yma a adeiladwyd yn 1865. Mae’n un o’r unig ddau o’r math yma o oleudy sy’n dal i sefyll yn unrhyw le yn y byd, a’r unig un yn y Deyrnas Unedig.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr

Fel yr ardal gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael ei dynodi’n AHNE, mae Penrhyn Gŵyr yn boblogaidd gydag ymwelwyr a phobl yr ardal fel ei gilydd.

Cysylltiadau lleol

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin gyfoeth o wybodaeth ychwanegol i’ch helpu i gynllunio eich antur nesaf, cofiwch eu holi os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’ch ymweliad. Gallwch ymweld â hwy isod: