Gwyriadau dros dro
Rhestr ddiweddar o wyriadau dros dro cyfredol ar y llwybr
O bryd i’w gilydd mae angen dargyfeirio rhannau o Lwybr Arfordir Cymru dros dro – yn bennaf oherwydd rhesymau diogelwch y cyhoedd ar ôl tywydd garw, tirlithriadau neu waith adeiladu. Fodd bynnag, ein harwyddair yw, 'nid ydym byth ar gau' a dylai llwybr arall fod ar gael bob amser. Oes rhywbeth o’i le ar Lwybr Arfordir Cymru, gadwech i ni gwybod ar ein ffurflen Rhoi gwybod ar fater ymwneud a'r Llwybr
Conwy
Bae Cinmel, Conwy – Mae’r dargyfeiriad ar St Asaph Avenue yn ei le tan 31 Ionawr 2026. O 1 Awst tan 31 Hydref 2025, bydd y darn 20 i 30 metr o Lwybr Arfordir Cymru’n cael ei ailagor dros dro am ddau fis. O Hydref 2025, bydd y dargyfeiriad ar waith eto tan i’r gwaith gael ei gwblhau ddechrau 2026. Gweld map dargyfeiriad St Asaph Avenue Bae Cinmel. (diweddarwyd 29 Gorffennaf 2025)
Gwynedd
Mae Pont yr Aber rhwng castell Caernarfon a pharc chwarae Caernarfon, sy’n groesfan dros Afon Seiont, ar gau o bryd i’w gilydd. Pan fydd hyn yn digwydd, dilynwch y llwybr amgen ar y map. Gallwch roi gwybod i Gyngor Gwynedd bod y bont ar gau (diweddarwyd 5 Gorffennaf 2022)
Castell-nedd Port Talbot
Morfa Margam (rhwng cyffordd 38, M4 a Gwarchodfa Cynffig) – Oherwydd difrod ar y llwybr pren a’r croesfannau rheilffordd a gaewyd gan Network Rail ger Eglwys Nunydd (cyffordd 38, M4), mae llwybrau troed 93 a 93A, morfa Margam (llwybr yr iseldir), ar gau. Defnyddiwch y llwybr llanw uchel swyddogol rhwng gwarchodfa natur Cynffig ar ffordd yr A48, i ac o gyffordd 38, M4. (diweddarwyd 29 Gorffennaf 2025)
Abertawe
Coedwig Cwmy Ivy a'r morglawdd. Yng nghoedwig Cwm Ivy, mae coed heintiedig yn cael eu torri, felly oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch mae'n rhaid dargyfeirio’r rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru. Mae dau lwybr amgen y gellir eu dilyn sy’n defnyddio isffyrdd a llwybrau troed, yn dibynnu ar y llanw.
Pan fo’r llanw ar drai, o'r gorllewin gallwch adael y ffordd a dilyn llwybr troed LM1A ac ymuno â CH17, yna ymuno â llwybr troed CH8. Pan fo’r llanw’n uchel, o'r gorllewin, dilynwch lwybr y penllanw cyfredol ar hyd y ffordd i Cheriton ac ymunwch â llwybr troed CH8 i barhau â'ch taith. Gwnewch y gwrthwyneb os byddwch yn dod o’r dwyrain.
Mae llwybr LM1B wedi bod ar gau oherwydd difrod i’r morglawdd ers 2015. Mae'r map dargyfeirio ar gael yn y tabl Gwyriadau Dros Dro. Mae’n werth gwirio amseroedd y llanw cyn i chi gynllunio eich taith. (diweddarwyd 1 Tachwedd 2024)
Tabl o Gwyriadau Cyfredol
Mae’r map rhyngweithiol yn dangos Llwybr Arfordir Cymru fel llinell borffor ac yn dangos unrhyw ddargyfeiriadau dros dro i’r llwybr fel trionglau melyn yn ôl eu lleoliad ar y llwybr. Mae’r dargyfeiriadau dros dro hefyd wedi’u rhestru yn ôl awdurdod unedol yn y tabl isod.
Awdurdod Lleol | Lleoliad | Rheswm | Map Gwyriad | Dyddiad |
---|---|---|---|---|
Abertawe | Cwm Ivy: coedwig a morglawdd | Iechyd a Diolgelwch | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Caerdydd | Canolog Caerdydd | Iechyd a Diolgelwch | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Castell-nedd Port Talbot | Mae Llwybrau Troed 93 a 93A morfa Margam (llwybr yr iseldir) ar gau. Defnyddiwch y llwybr llanw uchel yn lle (ffordd yr A48) | Iechyd a Diolgelwch (llwybr pren wedi'i ddifrodi) | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Conwy | Bae Cinmel (St Asaph Avenue) | Amddiffyn rhag llifogydd | cy | tan 31-01-2026 |
Ddinbych | Rhyl glan y môr | Gwaith Amddiffyn Arfordirol | cy | tan 30-09-2025 |
Gaerfyrddin | Talacharn llwybr cyhoeddus 22/15 (wedi dechrau 4 Mis Medi 2024) | Gwaith gan Dŵr Cymru | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Gwynedd | Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog | Difrod storm | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Morgannwg | Llanilltud Fawr llwybr troed rhif 3 a 58 | Cliff fall | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Sir Benfro | Amroth | Tirlithriad | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Ynys Mon | Cemaes | Tirlithriad | cy | hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Diweddarwyd ddiwethaf 01 Awst 2025