Llwybr Arfordir Cymru wedi gwneud i mi deimlo fy mod yn perthyn eto

Blogiad ysbrydoledig a chalonogol gan yr ymgyrchydd anabledd Bethany Handley

Bethany Handley

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Yr awdur arobryn, bardd, ymgyrchydd anabledd a llysgennad Llwybr Arfordir Cymru, Bethany Handley, sy’n cymryd yr awenau ar gyfer blog mis Chwefror, gan drafod ei hoff rannau o Lwybr Arfordir Cymru a sut mae wedi ei grymuso i ailgysylltu ag arfordir Cymru.

Stori Bethany

Wrth dyfu i fyny yn syrffio a heicio ar hyd clogwyni garw Cymru, mae’r arfordir wastad wedi bod yn rhan annatod o fy ymdeimlad o fi fy hun. Roedd bod ar lan y môr yn rhoi egni i mi. Yn dilyn salwch a newidiodd fy mywyd, meddyliais na fyddwn byth yn cael mynediad i arfordir Cymru eto, heblaw ar bromenadau tarmac fel Penarth neu Landudno neu harbyrau a marinas Caernarfon ac Abertawe.

Roeddwn yn breuddwydio am ddychwelyd i'r môr, am sgrialu ar hyd llwybrau clogwyni. Ond mewn gwirionedd doedd dim yn teimlo'n fwy gelyniaethus na'r arfordir a'i lwybrau troellog wedi'u cerfio gan filoedd o draed mewn esgidiau cerdded. A minnau’n defnyddio cadair olwyn, roeddwn wedi fy nghau allan o’r llwybrau lleol roedd fy nheulu a minnau wedi’u rhannu o’r blaen – a hynny oherwydd gatiau moch a chamfeydd a pethau felly. Felly, meddyliais, does bosib nad oedd llwybr yr arfordir yn gallu bod yn hygyrch? Wel, yn ffodus, roeddwn i'n anghywir.

Yn y misoedd ar ôl dod yn ddefnyddiwr cadair olwyn amser llawn, dechreuais archwilio Llwybr Arfordir Cymru eto - un rhan hygyrch ar y tro. Un o fy nheithiau cyntaf gyda fy nghorff newydd oedd i Fae Caerdydd, lle roeddwn i wedi byw yn y gorffennol. Wrth wibio heibio’r Senedd a’r Eglwys Norwyaidd ar hyd llwybr tarmac gwastad y morglawdd, roeddwn yn teimlo mor rhydd, yn symud heb gyfyngiadau na rhwystrau tra roedd gwylanod yn cylchu uwchben. Doedd dim graean na mwd i fy nhaflu o'm cadair olwyn. Doedd dim giatiau i fy nghloi allan. Teithiais heibio Tŵr y Wennol Ddu - tŵr uchel â’i freichiau'n agored i'r awyr i gynnig lloches i wenoliaid du, twr sydd hefyd yn canu cân yr aderyn hwn i’w temptio i aros. Wrth ymyl y dŵr, dechreuodd y clawstroffobia o fod yn sownd yn yr ysbyty a’r tŷ chwalu. Wrth edrych allan dros aber afon Hafren, astudiais y gorwel – yr awyr a'r dŵr yn toddi’n un ehangder anfeidrol. 

Fel cerddwr a syrffiwr brwd, o’r blaen roeddwn wedi tanbrisio byd natur mewn ardaloedd trefol. Yn fy mywyd yn y gorffennol, ni fyddai wedi croesi fy meddwl fy mod ar Lwybr Arfordir Cymru wrth loncian ar hyd Morglawdd Bae Caerdydd, lle mae’r ddinas yn cwrdd â’r dŵr. Erbyn hyn, rwy'n gwerthfawrogi ardaloedd trefol gymaint â'n tirweddau mwy anghysbell. Mae natur mewn trefi a dinasoedd yn bwydo ein heneidiau a gall fwydo ein hawch am antur gymaint â sgrialu ar ben clogwyni. O harbwr Caernarfon a phier Llandudno i’r prom yn Aberystwyth, porthladd Abertawe, canol dinas Casnewydd, a glan yr afon Cas-gwent, mae Llwybr Arfordir Cymru yn gwau drwy 870 milltir o drefi, dinasoedd a chefn gwlad Cymru, gan gysylltu a dathlu ein cenedl - a rhoi inni fynediad ati yn ei holl amrywiaeth.

Mae llawer o rannau mwy gwledig y llwybr hefyd yn hyfryd o hygyrch, ac rwyf wedi cael y fraint o ailddarganfod lle y gallaf gael mynediad gyda fy nghorff newydd. I mi, llinyn yw Llwybr Arfordir Cymru sy'n uno fy mhrofiadau ar hyd yr arfordir cyn defnyddio cadair olwyn i'r anturiaethau yr wyf bellach yn eu cael ar olwynion. Mae arwydd bach glas a melyn Llwybr Arfordir Cymru wedi rhoi ymdeimlad o berthyn i mi eto.

Hoff adrannau hygyrch Bethany 

Rest Bay, Porthcawl

Treuliais ddyddiau hir fel plentyn bach ar y tywod yn Rest Bay a dysgais syrffio yno gyda fy mrawd pan oeddwn yn wyth mlwydd oed, felly roedd yn hanfodol i fy ymdeimlad o fi fy hun i ddod o hyd i ffordd o ddychwelyd yno fel defnyddiwr cadair olwyn. Yn ffodus, mae’r mynediad yn dda. 

Mae toiled cyhoeddus hygyrch wrth ymyl y caffi, lifft i fyny i'r caffi, a chadair olwyn traeth ar gael i'w benthyca am ddim. Mae yna hefyd leoedd parcio bathodyn glas yn y maes parcio ac ar waelod y bryn ger cwt yr achubwyr bywyd wrth y traeth. Ceir mynediad i'r tywod ar hyd ramp concrit serth. Os ydych chi'n defnyddio cadair olwyn traeth, bydd angen rhywun cryf i'ch helpu, ond nid oes grisiau. 

Mae yna hefyd rannau hygyrch hyfryd o Lwybr Arfordir Cymru, gan gynnwys o Rest Bay i Borthcawl ar balmant tarmac wrth ymyl y môr. Mae hwn yn hygyrch i ddefnyddwyr unrhyw fath o gymorth symudedd, gan gynnwys cadeiriau olwyn â llaw heb atodiadau ar gyfer mynd oddi ar y ffordd.

Fel arall, trowch i’r dde ger cwt yr achubwyr bywyd a dilynwch y llwybr uwchben y traeth. Mae'n troi'n llwybr pren, a oedd yn bosib gyda'm teiars oddi ar y ffordd ac atodiad pŵer. Bu imi gyfarfod â defnyddwyr sgwteri symudedd oedd hefyd yn mwynhau’r llwybr. Ymlaen â mi dros y gwair tuag at draeth y Sgêr. Roedd giât mochyn na fyddai'n bosibl gwasgu drwyddo ar sgwter symudedd, ond llwyddais i yn fy nghadair olwyn pan ddatgysylltais fy atodiad pŵer. Mae’n daith gerdded syfrdanol ar lan y môr a’m llanwodd â llawenydd.

Gwlyptiroedd Casnewydd

Mae Gwlyptiroedd Casnewydd yn un o fy hoff lefydd pan fyddaf eisiau treulio amser y tu allan gyda ffrindiau anabl eraill neu’r teulu. Mae maes parcio bathodyn glas a thoiled hygyrch yno. Mae sgwteri pob tir i'w llogi yn rhad ac am ddim o'r ganolfan ymwelwyr hygyrch. Gwnaeth fy mam-gu a minnau fenthyg sgwteri a rasio drwy'r cyrs aur tuag at aber afon Hafren. Dwi wedi treulio oriau wrth ymyl y cyrs yn gwrando ar y bronfreithod a thelorion Cetti.

Mae yna lwybr a elwir yn hygyrch sydd ag arwyneb o fwd a cherrig cywasgedig, ond rydw i wedi gweld bod llawer o’r llwybrau’n hygyrch i’m cadair olwyn gydag atodiad pŵer. Ar ôl diwrnod oer, cynheswch yn y caffi, sy'n edrych dros lyn â chyrs sy'n gartref i amrywiaeth eang o adar. 

Porth Mawr, Sir Benfro 

Treuliais fy mhenblwydd diwethaf yn eistedd ar draeth y Porth Mawr gyda fy nheulu wrth i’r machlud tanllyd droi’r traeth yn aur, gyda’r tân yn yr awyr yn cronni ar y tywod gwlyb. Benthycais gadair olwyn y traeth o'r cwt achubwyr bywyd a gadael fy nghadair olwyn i yno’n ddiogel. Mae mynediad â ramp i’r traeth, maes parcio bathodyn glas, a man newid cwbl hygyrch yn y maes parcio.

Y Cob, Malltraeth, Ynys Môn 

Taith gerdded/rolio hyfryd a hygyrch, gyda llwybr tarmac yn ymestyn tuag at goedwig ar y gorwel a’r mynyddoedd mawreddog y tu ôl iddi. I'r chwith mae Pwll y Cob, sy’n gartref i'r hwyaid llostfain, chwiwellod, corhwyaid a chornchwiglod yn yr hydref a'r gaeaf wrth iddynt gyrraedd o'r Arctig, tra bod ehedyddion yn esgyn uwchben y warchodfa yn yr haf. I'r dde mae aber afon Cefni yn disgleirio.

Dilynwch arwyddbyst Llwybr Arfordir Cymru tuag at Lyn Parc Mawr, lle, ar ddiwedd Llwybr Golygfa’r Llyn, mae cuddfan adar sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn yn edrych dros lyn lle gallwch weld cwtieir, gwyachod bach a chrehyrod gleision.

Llanfairfechan, Conwy, i Warchodfa Natur Morfa Madryn, Conwy 

Un o fy hoff rannau hygyrch o Lwybr Arfordir Cymru yw’r llwybr tarmac sy’n dilyn Traeth Lafan, sy’n gartref i amrywiaeth eang o adar. Mae’r llwybr yn dilyn y môr gyda golygfeydd o Ynys Môn i’r gogledd a’r mynyddoedd i’r de.

Ar ôl hanner milltir o ddilyn y llwybr llydan, hardd wrth ymyl y môr, mae’r dirwedd yn troi’n graig a glaswellt wedi’u cywasgu yn ardal corstir arfordirol Glan y Môr Elias. Fe wnes i lywio'r tir yn rhwydd gyda'm teiars oddi ar y ffordd a'm hatodiad pŵer. Wrth ddilyn y llwybr i Warchodfa Natur Morfa Madryn, mae'r llwybr yn culhau, gan aros yn wastad ac yn ddigon llydan ar gyfer y rhan fwyaf o gymhorthion symudedd gyda mynediad ramp i guddfannau adar. Mae’n daith gerdded hygyrch y gallwch ei gwneud yn ei chyfanrwydd; mae’n llwybr hyfryd i bawb. 

Instagram @BethanyHandley_
Gwefan – BethanyHandley.com

Mwy o gwybodaeth

Mae gan Bethany ddau gyhoeddiad newydd y dylech gael cipolwg arnynt:  

Cling Film cyhoeddwyd gan Seren (£6)
'A bold, urgent and gifted new voice in Welsh poetry.’ Owen Sheers 

Wedi’u gosod mewn mannau cyfarwydd o Gymru – o Ysbyty’r Mynydd Bychan, Caerdydd, i Fynydd Mawr yn Eryri – mae’r cerddi ffraeth, treiddgar hyn yn herio mythau am anabledd mewn ffyrdd sy’n drawiadol, yn graff ac yn echrydus o wir.  

Beyond / Tu Hwnt cyhoeddwyd gan Lucent Dreaming (£12) - Casgliad dwyieithog o waith gan 31 o lenorion Byddar ac Anabl o Gymru sy’n ysgrifennu gyda herfeiddiwch, llawenydd ac ymdeimlad o gymuned yn wyneb anhygyrchedd ac ableddiaeth. Golygwyd gan Bethany Handley, Megan Angharad Hunter a Sioned Erin Hughes.