Cyflwyno ein llysgenhadon cyfryngau cymdeithasol newydd!

Ein hoff ddylanwadwyr a chrewyr cynnwys am ysbrydoliaeth

Dewch i Gwrdd â'n Llysgenhadon!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Wrth gynllunio antur ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad, y dyddiau hyn mae llawer ohonom yn troi at ein hoff ddylanwadwyr a chrewyr cynnwys am ysbrydoliaeth.

Mae sgrolio eu tudalennau Instagram lliwgar, eu blogiau a’u TikToks fel camu i drysorfa o greadigrwydd awyr agored sy’n gwneud i’w dilynwyr ysu am wisgo amdanynt a mynd am dro i weld y lleoliadau arbennig hyn drostynt eu hunain.

Gyda hyn mewn golwg, yr hydref hwn rydym wedi penodi’r cyntaf mewn cyfres newydd o lysgenhadon cyfryngau cymdeithasol ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru a’r Llwybrau Cenedlaethol, a byddwn yn cydweithio â nhw’n barhaus i rannu rhai o’r lleoliadau harddaf o bob cwr o Gymru. Ac wrth i amser fynd heibio byddwn yn ychwanegu mwy o Lysgenhadon cyfryngau cymdeithasol at ein tîm, felly dim ond y dechrau yw hyn…

Disgwyliwch weld llawer o bostiadau Instagram ar y cyd ar draws ein sianeli, yn ogystal â rhai postiadau blog unigryw yn amlinellu rhai o hoff lwybrau cerdded ein Llysgenhadon, mannau eiconig i dynnu lluniau a gwybodaeth ddefnyddiol.

Jessie-Ann Lewis 

_@jessieannlewis

Mae Jessie’n grëwr digidol sy’n symud rhwng Caerdydd a Chaerfyrddin, ac mae ei chynnwys yn canolbwyntio ar archwilio Cymru a thu hwnt. Mae hi'n gerddwr a rhedwr brwd, a gallwch chi hefyd ddilyn ei hanturiaethau rhedeg trwy @jessielewisgoesrunning

Hanna Rowcliffe

@the_welsh_wanderer_

Mae Hanna yn ddylanwadwr cerdded yn ne Cymru. Mae hi’n siarad Cymraeg, ac yn ffotograffydd nodedig, ac mae ei chynnwys yn arddangos harddwch naturiol Cymru. Mae Hanna hefyd wrth ei bodd â rhywfaint o badlfyrddio a throchi mewn dŵr oer.

Alex Bowden

@alexbowdensphotography

Ffotograffydd o Gymru yw Alex sy'n creu cynnwys cerdded ac arfordirol o amgylch y DU. Mae’n teithio’n aml o amgylch Cymru a’r DU gyda’i bartner, Lauren, yn tynnu lluniau hyfryd o’u hanturiaethau gyda’i gilydd.

Lauren Harwood

@walkingwithlauren

Mae Lauren yn ddylanwadwr heicio a cherdded o Fargod. Gyda chariad gwirioneddol at antur, mae hi'n teithio o amgylch Cymru a'r DU gyda'i phartner, Alex, yn darganfod ac yn archwilio'r llwybrau gorau oll i’w hyrwyddo i'w 32,000+ o ddilynwyr.

Carl Bellingham

@hikingadventurecarl

Mae Carl yn grëwr digidol wedi'i leoli ym Mhowys. Yn gerddwr brwd, mae Carl yn treulio llawer o amser ym mynyddoedd Cymru, ond mae hefyd wrth ei fodd â harddwch yr arfordir.

Vanessa Jessett

@vanessa.views

Mae cynnwys Vanessa yn cyfleu ei hanturiaethau wrth heicio a’r llwybrau gorau oll ar draws Cymru (a thu hwnt!) i’w harchwilio.

Tanya Knight

@happywelshfeet

Mae Tanya yn grëwr digidol sydd wedi'i lleoli yng Ngogledd Cymru. Mae hi’n siarad Cymraeg, ac mae hi wrth ei bodd yn teithio, ac yn disgrifio ei hun fel un sydd 'hapusaf wrth grwydro'.

Bethany Handley

@bethanyhandley_

Mae Bethany yn awdur ac yn actifydd anabledd o Dde Cymru. Mae ei chynnwys yn canolbwyntio ar hyrwyddo llwybrau hygyrch i’w harchwilio ledled Cymru. Yn ogystal â bod yn Llysgennad Llwybr Arfordir Cymru, mae Bethany hefyd yn Llysgennad ar gyfer ymgyrch Mynediad i Bawb Country Living sy’n hyrwyddo hawl pawb i fwynhau mannau gwyrdd Prydain

Lewis Thomas

@lewisgthomas

Crëwr cynnwys digidol a ffotograffydd tirwedd o Gymru yw Lewis. Fel ffotograffydd tirwedd mae ei gynnwys yn dal hanfod harddwch naturiol Cymru, ac yn ei arddangos i'w ddilynwyr niferus. Mae Lewis hefyd yn chwaraewr tenis brwd, felly nid yw'n tindroi am hir!

Rebekah Mermaids

@rebekah_mermaid

Mae’r gadwraethwraig forol Rebekah yn disgrifio’i hun fel ‘dynes y dŵr’ sy’n treulio llawer o’i hamser yn yn y môr (neu afonydd, neu lynnoedd, neu raeadrau!). Mae hi'n credu'n gryf yng ngrym dŵr a natur i iachau.

Stacey Taylor

@wales_on_my_doorstep

Crëwr digidol o Gymru yw Stacey sy’n teithio ar draws y byd i greu cynnwys teithio hardd ar gyfer ei 51,000+ o ddilynwyr.

Nerys Owen

@ner1477

Mae Nerys yn ddylanwadwr yng Ngogledd Cymru. Mae hi'n siarad Cymraeg ac yn llysgennad Eryri. Mae ei chynnwys yn ymwneud â’i theithiau a’i hanturiaethau ledled Cymru, a hi hefyd yw’r arweinydd tudalen ar gyfer y cyfrifon Instagram hynod boblogaidd @yourwales, @yourcountryside and @your_trees__

Sarah-Jayne Luke

@welsh_girl_wandering

Crëwr cynnwys digidol o Ogledd Cymru yw Sarah-Jayne. Mae ei chynnwys yn darparu llwybrau heicio prydferth yn ei chwr hi o Gymru i’w chynulleidfa frwd. Mae Sarah-Jayne hefyd yn feddyg mamaliaid morol cymwys gyda British Divers Marine Life Rescue!

Carys Rees

@this.girlwalks

Mae Carys yn grëwr digidol yn Ne Cymru. Mae hi’n wirfoddolwr i’r Tîm Achub Mynydd sy’n gweithredu ym Mannau Brycheiniog ac mae ei chynnwys yn dangos mannau prydferth ledled Cymru i gerdded ac archwilio.

Nathan Dixon

@_travellingwelshman

Mae Nathan - neu The Travelling Welshman - yn dweud ei fod wrth ei fodd â mordeithiau ond mae hefyd yn frwdfrydig iawn am bopeth sy'n ymwneud â Chymru. Mae yn ei elfen yn crwydro Cymru a thu hwnt ac yn rhannu ei brofiadau gyda’i 13,000+ o ddilynwyr ar Instagram.

Nat

@wild_childofthe80s

Crëwr cynnwys digidol o Gymru yw Nat y mae ei chynnwys yn canolbwyntio ar archwilio tirwedd Cymru o’i fan wersylla, gyda ffocws ar gynaliadwyedd. Mae hi’n disgrifio ei hun fel enaid anghonfensiynol a cherddwr brwd ac mae hi bob amser yn rhannu ei hoff lefydd gyda'i dilynwyr.