Bywyd gwyllt yn deffro yng ngwarchodfeydd natur cenedlaethol Cymru
Cysylltwch â natur ar hyd y llwybr yn ystod y...
Ein hoff ddylanwadwyr a chrewyr cynnwys sy’n ysbrydoli cerddwyr
Yr hydref diwethaf lansiwyd ein llysgenhadon cyfryngau cymdeithasol newydd ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru a’r Llwybrau Cenedlaethol, un ar bymtheg o grewyr cynnwys a chanddynt un peth yn gyffredin – hoffter o’r awyr agored, a Chymru yn benodol!
Dros y chwe mis diwethaf rydym wedi bod yn rhannu eu cynnwys hardd ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, acyn cydweithio â nhw (blog Hoff fannau ein Llysgennad ar y llwybr) er mwyn dod â’r gorau posibl o Lwybr Arfordir Cymru a’n Llwybrau Cenedlaethol, i gynulleidfaoedd ar-lein sy’n dilyn ein tudalennau.
Mae eu cynnwys wedi bod yn hynod boblogaidd gyda’n holl gynulleidfaoedd, ac felly wrth i ni aros am ddyfodiad y gwanwyn, dyma’r union amser i gyhoeddi cam 2 ein rhaglen llysgenhadon cyfryngau cymdeithasol, gyda phenodiad deuddeg o lysgenhadon newydd anhygoel!
Gallwch ddisgwyl gweld llawer o bostiadau Instagram ar y cyd ar draws ein sianeli, yn ogystal â rhai postiadau blog unigryw yn amlinellu rhai o hoff lwybrau cerdded ein Llysgenhadon, mannau eiconig i dynnu lluniau a gwybodaeth ddefnyddiol. Dewch i gwrdd â'n Llysgenhadon newydd!
@ohwhataknight_ (yn agor mewn tab newydd)
Mae Chris yn grëwr cynnwys sy’n canolbwyntio ar yr awyr agored ac mae ganddo hoffter gwirioneddol o Gymru. Edrychwch ar ei sianel YouTube lle mae'n darparu fideos cerdded, antur a theithio ochr yn ochr ag adolygiadau a chyngor achlysurol o offer. Ac ar ei arweinlyfr teithio i Gymru mae ganddo arweinlyfrau ar gyfer ardaloedd a chyngor ymarferol ac ysbrydoliaeth i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
@welshylou09 (yn agor mewn tab newydd)
Mae Louise, neu Wandering Welsh Girl, yn gweithio fel tywysydd teithiau, cerdded ac eirafyrddio. Pan nad yw hi'n byw bywyd crwydrol yn teithio o amgylch y byd gyda'i dyweddi Nick, fe ddewch chi o hyd iddi yng Ngogledd Cymru.
@hike.psych (yn agor mewn tab newydd)
Mae Shareen yn seicolegydd clinigol dan hyfforddiant ac yn frwdfrydig iawn dros hybu’r awyr agored. Mae hi wrth ei bodd yn cerdded, dringo a chyda nofio gwyllt a phadlfyrddio.
@cexx12 (yn agor mewn tab newydd)
Mae Ceri yn ei disgrifio’i hun fel 'mam awyr agored' ac mae'n byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru fel athrawes ysgol uwchradd sy’n dysgu Cymraeg. Mae hi wrth ei bodd gyda heicio, cerdded a nofio gwyllt ac mae ei gŵr (y gwnaeth ei gyfarfod ar Instagram!) hefyd yn gefnogwr mawr o’r awyr agored. Cawsant fachgen bach yn 2024 a nawr maen nhw’n mynd ag ef gyda nhw ar eu hanturiaethau.
@im_a_little_pea (yn agor mewn tab newydd)
Mae Dionne yn hyrwyddwr hynod o frwdfrydig dros arallgyfeirio’r awyr agored ac mae’n ymwneud yn weithredol â nifer o sefydliadau sy’n hyrwyddo’r achos hollbwysig hwn, gan gynnwys @steppers_uk sy’n cefnogi pobl a chymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig/POC i feithrin perthynas gadarnhaol â’r awyr agored.
@welshhistories(yn agor mewn tab newydd)
Mae Welsh Histories yn cael ei redeg gan Niklas George sy'n taflu goleuni ar nifer dirifedi o straeon hynafol a hanesyddol Cymru. Dechreuodd Welsh Histories ym mis Hydref 2023 a chafodd ei sefydlu’n wreiddiol fel tudalen Facebook yn unig i’r sylfaenydd, Niklas, fel ffordd i ymdopi â’i hiraeth ar ôl gadael Y Rhyl am Pune yn India ar ôl priodi. Yn fuan iawn ffurfiwyd cymuned o amgylch Welsh Histories ac ehangodd eu cynnwys i ymgorffori YouTube, Instagram a chylchgrawn digidol newydd Welsh Histories.
@amandascoastalchallenge (yn agor mewn tab newydd)
Cafodd Amanda anaf i fadruddyn y cefn yn 2014 ac ychydig flynyddoedd yn ôl penderfynodd ei bod am deithio’r 870 milltir ar hyd Llwybr Arfordir Cymru dros y tair blynedd nesaf, naill ai mewn cadair olwyn, ar dreic gorweddol, neu drwy gerdded ychydig o gamau gyda baglau ac orthoteg. Wrth wneud hynny mae Amanda yn codi arian i ddwy elusen anafiadau asgwrn cefn, sydd ill dwy yn gwneud gwelliannau sylweddol i fywydau cleifion sy'n dilyn sesiynau adsefydlu - Rookwood SpUR a Horatio's Garden. Ymweld tudalen Amanda JustGiving Amanada
@eilir30 (yn agor mewn tab newydd)
Mae Eilir yn ffotograffydd llawrydd, yn syrffiwr, yn fynyddwr ac yn anturiaethwr cyffredinol sydd wrth ei fodd yn derbyn her epig llawn adrenalin!
@tomdavies (yn agor mewn tab newydd)
Mae Tom yn grëwr byd VR sy’n caru ac yn gwerthfawrogi byd natur o ddifrif. Mae teithio a ffotograffiaeth yn rhai o’i brif ddiddordebau ac mae’n dad balch i ddau.
@welshgirl.captures (yn agor mewn tab newydd)
Nod y ffotograffydd Sian Thomas yw crisialu harddwch Cymru ac mae wedi ennill cryn dipyn o ddilynwyr ar-lein ar ôl iddi bostio ei ffotograffau o fannau hardd dirifedi Cymru.
@laurasidestreet (yn agor mewn tab newydd)
Mae Laura yn dod o Dde Affrica ac yn byw yn Ne Cymru. Mae hi bob amser yn yr awyr agored ac wrth ei bodd yn archwilio, teithio a sglefrio gyda’i dau fachgen. Mae Laura yn awdur llawrydd sydd hefyd yn ffeminydd hunanhonedig; ac mae’n teimlo’n angerddol ynglŷn â chydraddoldeb, hawliau menywod a hawliau mamau o ran gweithio hyblyg, teithio diogel a chael eich gweld fel mwy na mamau yn unig
@gareth_mon_photography (yn agor mewn tab newydd)
Mae Gareth yn ffotograffydd tirluniau ac astroffotograffiaeth sydd wedi ennill llu o wobrau rhyngwladol a chenedlaethol ac sy’n tynnu lluniau ledled Cymru a'r byd. Mae ei luniau o awyr Cymru yn y nos yn dra arbennig.