Aber Afon Dyfrdwy drwy gydol y flwyddyn
Cysylltu â byd natur drwy gydol y flwyddyn wrth...
Darganfyddwch ble i fynd a beth allwch chi ei weld
Croeso Cymru
Mae Amanda Harris, sy'n godwr arian brwd, yn archwilio rhannau hygyrch y llwybr gan ddefnyddio ei chadair olwyn ar gyfer trecio. Mae hi hefyd yn cipio ei thaith ar-lein gydag awgrymiadau a chynghorion defnyddiol sy'n ysbrydoli eraill i wneud yr un peth. Dyma ei phrofiad hi o arfordir gogledd Cymru hyd yn hyn.
Roeddwn i bob amser wedi breuddwydio am gerdded arfordir Cymru, gyda’i glogwyni garw, traethau godidog, a chestyll hanesyddol. Ond ar ôl cael anaf a newidiodd fy mywyd, roeddwn i'n meddwl y gallai'r freuddwyd fod ar ben - roeddwn i nawr yn defnyddio cadair olwyn a chymhorthion symudedd. Sut ar y ddaear y gallwn i fynd allan ar lwybr yr arfordir?
Yn hytrach na chefnu ar fy mreuddwyd, penderfynais i weld beth oedd yn bosibl. Gyda chefnogaeth, rydw i nawr yn gwneud fy ffordd o amgylch Llwybr Arfordir Cymru er budd elusen - yn dogfennu adrannau sy'n hygyrch i mi, yn codi arian, a gobeithio, yn ysbrydoli eraill i gofleidio harddwch arfordir Cymru.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yng Nghonwy a Gwynedd yn cynnwys sawl rhan sydd wedi’u nodi’n ddiweddar fel rhai hygyrch. Ar lannau Afon Menai, y corff o ddŵr sy'n gwahanu tir mawr Cymru oddi wrth Ynys Môn, mae'r rhannau hyn gan fwyaf wedi'u tarmacio neu mae ganddynt arwyneb dda ac ar ddiwrnodau clir mae’r golygfeydd yn hyfryd. Rwyf wedi darganfod tair adran ar fy her sydd yn bendant werth ymweld â nhw.
Parcio ar bromenâd Llanfairfechan, mae hwn yn llwybr pedair milltir ar hyd y traeth, morfeydd heli a thrwy warchodfeydd natur. Gyda digon o fywyd adar, mae'n daith wych i'r rhai sy'n hoff o fyd natur.
Gan adael y maes parcio dros bont fach goncrit, gwnaethom ddilyn llwybr tarmac llydan wrth ochr y llyn cychod. Yn erbyn cefndir o dai lliwgar, mynyddoedd a chaeau roedd digon o feinciau ar hyd y llwybr i eistedd ac edmygu’r golygfeydd draw am Ynys Seiriol. Roedd yn wych gweld pobl eraill â chymhorthion symudedd allan yn mwynhau'r llwybr.
Yn y pen draw, aeth y llwybr i mewn i warchodfa natur Glan-y-Môr Elias a newidiodd y tir i gymysgedd o raean a glaswellt. Roedd gennyf atodiad pŵer ar flaen fy nghadair olwyn, ond, yn dibynnu ar y tywydd, gallai olygu y gallai fod angen rhywfaint o gymorth ar ddefnyddwyr cadeiriau olwyn llaw. Datguddiodd y warchodfa natur ardal laswelltog eang. Roeddwn i wrth fy modd gyda'r meinciau pren wedi'u cerfio gydag enwau a lluniau'r adar y gallwch chi eu gweld o gwmpas.
Gan barhau trwy goetir, a chroesi pont droed garreg, roedd opsiwn i ddargyfeirio i mewn i warchodfa natur Morfa Madryn, trwy giât bren. Roedd llwybr graean a mynediad ramp i un o’r cuddfannau adar yn ei gwneud hi’n bosibl i mi fynd i mewn, er ei bod yn werth nodi mai prin oedd y lle i droi a olygai bod rhaid bacio yn ôl lawr y ramp i fynd allan.
Wrth adael y warchodfa natur, fe ymlwybron ni’n ôl i’r llwybr glaswelltog tuag at y môr, gan ddolennu mewn cylch ac yn y pen draw ymuno â'r llwybr tarmac yn ôl at y car.
Mae clo clap ar giât mochyn hanner ffordd ar hyd y llwybr tarmac ac mae angen allwedd Radar. Unwaith y bydd y clo clap wedi'i ddatgloi, mae'r giât lydan drws nesaf i'r giât mochyn yn agor yn llawn i ganiatáu mynediad i gadeiriau olwyn a bygis. Mae disgwyl uwchraddio'r giât erbyn gwanwyn 2024 er mwyn hwyluso mynediad.
Mae maes parcio'r promenâd am ddim. Mae'r wyneb yn anwastad ond, eto, mae disgwyl gwelliannu iddo'n fuan. Mae toiled anabl yn y maes parcio gyda mynediad â ramp. Mae ganddo dâl o 50c, ond mae am ddim gydag allwedd Radar. Roedd meinciau tu allan i gaffi pafiliwn y traeth yn golygu ein bod yn gallu eistedd a mwynhau paned ar ôl ein taith gerdded.
Rhan nesaf ein taith oedd y llwybr rhwng y ddwy bont sy’n croesi’r Afon Menai ym Mangor. Gan gychwyn o bont drawiadol y Fenai, dilynom y llwybr ar hyd ffordd fynediad a thrwy’r giatiau mynediad agored i mewn i Gardd Fotaneg Treborth. Mewn coetir yn bennaf, roedd y llwybr gan fwyaf ar drac coediog neu lwybr pren a oedd, er braidd yn anwastad mewn mannau, yn hawdd ei reoli yn fy nghadair olwyn gyda'r atodiad pŵer.
Yn fuan ar ôl mynd i mewn i’r Ardd, roedd arwydd clir yn nodi bod y llwybr yn troi i lawr tuag at yr arfordir, ac yna’n dilyn glannau Afon Menai, gan fynd heibio i Gerflun Heddwch Treborth a rhai meinciau pren lle mae modd cymryd seibiant haeddiannol.
Ar ôl tua dwy filltir, cyrhaeddon ni yn union o dan Bont Britannia. Wrth basio oddi tano, dyma ni'n stopio i edmygu rhannau enfawr o'r bont diwb wreiddiol – roedd hi’n hynod ddiddorol gweld y campweithau peirianneg rhyfeddol hyn yn agos. Ychydig cyn y bont, mae modd crwydro oddi ar y llwybr arfordirol a dolennu ar hyd llwybr serth o amgylch y gerddi. Fel arall, gallwch barhau ar lwybr yr arfordir trwy coetir Glan Faenol, ar un deg yn rhan o ystâd y Faenol. Gwnaethom ddewis troi yn ôl a dychwelyd y ffordd y daethom.
Roedd un giât mochyn bren, ond roedd yn ddigon mawr i mi ei goresgyn yn fy nghadair. Mae esgyniad bach i'r llwybr ar y ffordd yn ôl i fyny. Mae modd parcio ar y ffordd fynediad ychydig y tu allan i fynedfa'r Ardd Fotaneg.
Wedi dychwelyd, manteision ni ar y cyfle i ymestyn ein taith gerdded ychydig gannoedd o lathenni, gan ddilyn y llwybr ar hyd y llwybr pwrpasol i gerddwyr i groesi Pont Menai ac yn ôl. Rhoddodd hyn gipolwg i ni o Ynys Môn a beth sydd o'n blaenau ar yr her hon!
O dref y Felinheli, roedd y llwybr o'r Ganolfan Chwaraeon Dŵr tua'r gorllewin yn darparu llwybr hygyrch 4.5 milltir berffaith, gan ddilyn Afon Menai yr holl ffordd i Gastell Caernarfon. Gan barcio ar y ffordd ger y Ganolfan, roedd yn hawdd dod o hyd i'n ffordd ar y llwybr, gan ffurfio rhan o Lwybr 8 Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Yn hyfryd ac yn wastad - fe wnaethon ni hyd yn oed hel ychydig o fwyar duon o'r cloddiau ar y ffordd.
Wrth gyrraedd Caernarfon, mae'r llwybr yn mynd o amgylch harbwr Doc Fictoria, lle mae pont droed gul (llai na 1.5 metr) i'w chroesi. Er bod ramp i mi, roedd angen gwthiad fach arnaf i dros rwystr bach i fynd ar y bont. Gellir cymryd llwybr arall, gan osgoi'r bont, o amgylch Galeri Caernarfon (sinema a man arddangos) ac i fyny stryd gefn. Wedi croesi'r bont droed, mae'r llwybr yn parhau yr holl ffordd i Gaernarfon, heibio'r Castell ac ar draws Pont yr Aber.
Gwnaethom sylwi ar siop llogi beiciau o fewn muriau’r Castell, ac roedd yn wych gweld beiciau wedi’u haddasu ar y llwybr rhwng y Castell a’r harbwr. Sy’n profi bod llwybr yr arfordir i bawb!
Darllenwch fwy am Hoff rannau hygyrch Amanda o'r llwybr ar wefan Croeso Cymru.
Dilynwch Amanda ar Instagram @amandascostalchallenge am awgrymiadau defnyddiol ar y rhannau hygyrch o'r llwybr y mae hi wedi bod arnynt hyd yma.