Llwybr Arfordir Cymru wedi gwneud i mi deimlo fy mod yn perthyn eto
Blogiad ysbrydoledig a chalonogol gan yr ymgyrchydd...
Darganfod ochr newydd a golygfeydd newydd o Lwybr Arfordir Cymru
Yn ôl arolwg cyhoeddus diweddar a gomisiynwyd gan yr Arolwg Ordnans, un o elfennau allweddol taith gerdded 'berffaith' yw dilyn llwybr cylchol, ac eto nid yw’n hawdd dod o hyd i’r rhain bob amser.
Felly, da o beth yw cael detholiad newydd sbon o lwybrau cylchol ar draws Llwybr Arfordir Cymru a’r Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru wedi’u datblygu gan yr awdur teithio profiadol, Paddy Dillon, mewn partneriaeth â swyddogion llwybrau lleol.
Mae taith gerdded gylchol, neu lwybr sy'n dechrau ac yn gorffen yn yr un lle, yn hytrach na cherdded llwybr llinol o A i B, yn ffordd ardderchog o weld arfordir Cymru a chefn gwlad heb orfod mynd yn ôl yr un ffordd, neu orfod defnyddio cludiant cyhoeddus i ddychwelyd.
Mae 33 o lwybrau cylchol newydd ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru, a 13 ar draws Clawdd Offa a Llwybr Glyndŵr, wedi'u curadu gan ddefnyddio hawliau tramwy cyhoeddus, llwybrau a ffyrdd cyfredol mewn ardaloedd dethol o Gymru.
Mae llwybrau sydd wedi eu hamlygu ar hyd Llwybr Arfordir Cymru yn cynnwys:
Llwybr cylchol 5 milltir
Mae'r llwybr cerdded hwn o amgylch Pen y Mwmbwls yn cynnwys popeth sydd gan y pentir hwn i'w gynnig - golygfeydd ysblennydd o'r môr, Goleudy Pen y Mwmbwls a Chastell Ystumllwynarth. Mae'r llwybr yn dilyn pennau clogwyni Llwybr Arfordir Cymru, gan orffen gyda thaith gerdded hamddenol wrth ddychwelyd i'r Mwmbwls. Os bydd y llanw allan, gellir ymestyn y daith o Bier y Mwmbwls ar hyd traeth garw i ymweld â Phen y Mwmbwls, lle saif goleudy fel coron ar yr ynys fechan. Edrych ar taith cerdded Llwybr cylchol Ystumllwynarth a Phen y Mwmbwls, Abertawe
Llwybr cylchol 5 milltir
Mae'r daith gylchol hon yn cyfuno coetir â golygfeydd o'r aber, ac ymweliad â chastell Llansteffan, yn ei leoliad ysblennydd ar fryn creigiog wrth geg Afon Tywi. Oddi yno ceir golygfeydd panoramig dros geg yr aber hyd at Aber Gwendraeth, Coedwig Penbre, traeth Cefn Sidan ac ar draws Gŵyr a Phen Pyrod. Yna gellir dilyn Llwybr Arfordir Cymru o Lansteffan i Fae Scott a Phwynt Wharley. I dorri'r daith gerdded, mae hefyd yn werth galw heibio pentref bach prydferth Llansteffan. Edyrch ar taith cerdded cylchol Llwybr cylchol Llansteffan
Llwybr cylchol 9 milltir
Mwynhewch safle Treftadaeth y Byd Castell Conwy, sef caer ganoloesol odidog sy'n dal i sefyll yn fawreddog dros y dref ar ôl 700 o flynyddoedd. Yn y pellter cyfyd mynyddoedd geirwon Eryri, ac yn ymledu allan oddi tanoch mae harbwr a strydoedd culion Conwy — sy'n dal i gael eu gwarchod gan gylch 1,400 llath di-dor muriau'r dref. Bydd y llwybr cylchol yn caniatáu i chi archwilio'r castell ac ardal ehangach Conwy, gan gynnig golygfeydd hardd o'r môr a’r mynydd. Mae'r llwybr yn mynd tua'r tir y tu ôl i Fynydd Conwy i Fwlch Sychnant a Dwygyfylchi, cyn cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru o amgylch pentir Penmaenbach i ddychwelyd i Gonwy. Edrych ar taith cerdded cylchol Conwy and Dwygyfylchi
Llwybr Cylchol 6.5 milltir
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Twyni Merthyr Mawr, ar arfordir De Cymru yn gartref i'r twyn uchaf yng Nghymru, sef y Trochwr Mawr. Mae'r system dwyni hon yn gwbl unigryw yng Nghymru, a hynny’n rhannol oherwydd yr ardal enfawr y mae'n ei gorchuddio gan ei bod yn ymestyn hyd at 840 erw - sef cymaint â 340 o gaeau rygbi rhyngwladol. Mae Merthyr Mawr yn hafan i fywyd gwyllt, ac mae’r tywod sydd wedi setlo ar ben y clogwyni calchfaen hynafol yn creu cynefin arbennig i bryfed, ffyngau a phlanhigion. Ceir hefyd laswelltiroedd, morfa heli, traeth a choedwigoedd o fewn y warchodfa. Mae'r daith yn mynd tua’r tir o Newton i Gastell Candleston, sy’n caniatáu ichi archwilio twyni helaeth Merthyr Mawr, cyn ymuno â Llwybr yr Arfordir a'i ddilyn hyd at geg Afon Ogwr ac yn ôl tuag at Borthcawl. Edrych ar taith cerdded cylchol Porthcawl a Merthyr Mawr, Pen-y-bont ar Ogwr
Taith gylchol 7.5 milltir
Llwybr cylchol ardderchog i gerddwyr yw hwn sy'n mynd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Clawdd Offa at bentref bach anghyfarwydd Gwaenysgor. Mae’r pentref wedi bodoli ers dros 6,000 o flynyddoedd ac mae’n frith o safleoedd claddu hynafol a thystiolaeth o aneddiadau o Oes y Cerrig, yr Oes Efydd a’r Oes Haearn sy’n dyddio’n ôl ganrifoedd. O Waenysgor mae'r llwybr yn dilyn hen ffordd gefn dros y bryniau ac yn mynd drwy Coed Bell a phentref Gronant. Yn y diwedd, bydd y daith yn eich arwain at yr arfordir isel ac yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru drwy dwyni tywod sydd wedi’u gorchuddio â llystyfiant cyn dychwelyd i Brestatyn. Edrych ar taith cerdded cylchol Prestatyn a Gronant