Cyflwyno ein llysgenhadon cyfryngau cymdeithasol newydd! Rhan 2
Ein hoff ddylanwadwyr a chrewyr cynnwys sy’n ysbrydoli...
Rhannau o'r llwybr sy'n addas i deuluoedd ac yn hygyrch
Aberporth Coastal Holidays
Wrth i wyliau’r Pasg agosáu, gall dod o hyd i weithgareddau hwyliog a difyr sy’n addas i bob oed fod yn her weithiau. Ond os ydych chi’n barod am antur sy’n addas i’r teulu yn yr awyr agored, mae Llwybr Arfordir Cymru yn cynnig digonedd o lwybrau gwych sy’n addas i deuluoedd ac yn hygyrch, lle gall pawb fwynhau harddwch arfordir Cymru, a llosgi egni ar ôl bwyta gormod o wyau Pasg!
Edrychwch ar rai o'r llwybrau rydyn ni’n eu hargymell isod.
Mae’r llwybr cerdded hwn yn hawdd ei gyrraedd ac yn cychwyn o adeilad eiconig y Senedd ar lan y bae poblogaidd, ac yn ymdroelli ar hyd y glannau ar ei ffordd tuag at y môr. Wrth i chi barhau, byddwch yn mynd heibio i'r Eglwys Norwyaidd yn ei chot o baent gwyn; dyma lle bedyddiwyd yr awdur Roald Dahl a aned yng Nghaerdydd. Gall cerddwyr iau fwynhau’r maes chwarae, y parc sglefrio a'r gampfa awyr agored y byddwch chi'n eu gweld ar hyd y ffordd.
Pan gyrhaeddwch chi ochr arall y Morglawdd, gallwch naill ai ddychwelyd ar yr un llwybr, neu barhau i fyny’r bryn tuag at ganol tref Penarth, a’r promenâd yr ochr arall i’r pentir, lle gallwch fwynhau hufen iâ haeddiannol o flaen y pier Fictoraidd hardd a’r traeth cerrig mân. Edrychwch ar fanylion taith gerdded Bae Caerdydd (yn agor mewn tab newydd).
Mae’r llwybr cerdded hwn yn addas i bramiau a bydd yn eich arwain at olygfeydd anhygoel, traethau hardd a bywyd gwyllt amrywiol. Gan ddechrau yn y maes parcio, ewch tua'r gorllewin ac fe welwch olygfeydd eang o Afon Glaslyn, un o brif afonydd yr ardal. I’ch plant, sganiwch y panel realiti estynedig er mwyn iddyn nhw ddysgu popeth am y crwban môr cefn-lledr, y gallwch ei weld yn y môr o bosib os edrychwch chi’n ddigon agos.
Parhewch ar y llwybr nes cyrraedd Ynys Cyngar, pentir bychan a oedd ar un adeg yn ynys lanwol. Gallwch ddychwelyd ar yr un llwybr neu fentro ychydig ymhellach ymlaen i Draeth Morfa Bychan, un o’r ardaloedd mwyaf o dywod yng Ngogledd Cymru. Cofiwch gymryd bwced a rhaw! Edrychwch ar fanylion taith gerdded Borth y Gest (yn agor mewn tab newydd).
Gyda dau draeth tywod cysgodol a phyllau glan môr ar eu cyrion, mae’r daith hon ar hyd Llwybr Arfordir Cymru yn berffaith ar gyfer fforwyr ifanc. Mae bron i hanner y llwybr, gyda meinciau picnic ar y ddau ben, yn llwybr o ansawdd uchel sy’n addas i gadeiriau olwyn a phramiau. Mae’n cynnig golygfeydd gwych ar hyd yr arfordir ac allan dros Fae Ceredigion, sy’n enwog am ei ddolffiniaid sydd i’w gweld yn aml yn chwarae ymhlith y tonnau.
Yn ychwanegol at draeth Aberporth sy'n addas i gadeiriau olwyn, mae’r Llwybr Mynediad Cynhwysol ar hyd Pen y Clogwyni yn cychwyn yn Headland Place a gellir ei gyrraedd hefyd o’r llefydd parcio i’r anabl ger Capel Bryn Seion. Mae’r llwybr yn parhau i ddolennu ar hyd cyfres o gildraethau creigiog cudd, a chofiwch gadw llygad am adar gan gynnwys clochdar y cerrig, corhedydd y waun a brain coesgoch prin wrth i chi gerdded. Edrychwch ar fanylion taith gerdded Aberporth (yn agor mewn tab newydd).
Mae’r daith gerdded hygyrch hon, sy’n cynnig golygfeydd godidog o Ynys Môn, wedi’i tharmacio ac mae digon o seddi ar hyd y llwybr, sy’n ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer ymwelwyr o bob oed a gallu. Dechreuwch ym maes parcio caffi Rest and Be Thankful, lle byddwch chi'n dod o hyd i banel profiad realiti estynedig rhyngweithiol, lle trwy ddefnyddio'r ap gallwch chi ddarganfod gloÿnnod byw prin a hyd yn oed chwarae gêm hyfforddi â gynnau mawr o'r Ail Ryfel Byd.
Wrth ichi wneud eich ffordd o amgylch Pen y Gogarth tuag at bromenâd Pen Morfa, fe gewch chi fwynhau golygfeydd ysblennydd. Os ydych chi am ymestyn eich taith gerdded, mae Gerddi Haulfre yn cynnig golygfeydd panoramig tuag at Gonwy ac ar draws Llandudno. I ddychwelyd, ewch ar dram Pen y Gogarth yn yr orsaf dramiau, a fydd yn mynd â chi yn ôl i'r copa. Oddi yno, dilynwch y llwybr troed yn ôl i'ch man cychwyn. Edrychwch ar fanylion taith gerdded Y Gogarth, Llandudno (yn agor mewn tab newydd)
Taith gerdded werth chweil i’r teulu oll, ymunwch â’r llwybr ym Mae Limeslade i gael gweld morloi’n torheulo ar y creigiau yn agos at ymyl y dŵr. Ychydig ymhellach ar hyd y llwybr, fe welwch Gerflun y Pysgodyn sy’n Llamu, rhan o lwybr celf arfordirol gan y grŵp Sculpture Art and Education by the Sea. Cymerwch olwg drwy’r ffenestr yng nghanol y cerflun i weld y golygfeydd, cyn parhau â'ch taith.
Yna mae’r llwybr yn mynd heibio i Fae Langland gyda’i res nodedig o gytiau traeth gwyrdd a gwyn Fictoraidd – man gwych i oedi ar gyfer lluniaeth ar ganol y daith wrth i chi wylio’r syrffwyr lleol yn reidio’r tonnau. Edrychwch ar fanylion taith gerdded Bae Limeslade i Fae Langland (yn agor yn tab newydd).
Mae Llwybr Arfordir y Mileniwm yn ymestyn am tua 13 milltir ac yn cynnig golygfeydd godidog o Fae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr. Mae’r llwybr yn dilyn darn gwastad a hygyrch o Lwybr Arfordir Cymru, a gall pawb fwynhau’r rhan hon o arfordir Sir Gaerfyrddin.
Dyma lwybr delfrydol ar gyfer bygis a chadeiriau olwyn, ac mae’r daith gerdded hygyrch hon yn cynnig amrywiaeth eang o bethau i’w gweld a’u gwneud ar hyd y ffordd, gan gynnwys Canolfan Gwlyptir Llanelli, sy’n gartref i haid o fflamingos pinc (golygfa hynod yn ne Cymru!), yn ogystal â thraethau tywodlyd eang, porthladdoedd prydferth a Pharc Gwledig a Thraeth Pen-bre, sydd â digonedd o gyfleusterau i gael diwrnod gwerth chweil dros y Pasg. Os ydych chi’n barod i gerdded rhan hygyrch hirach o lwybr yr arfordir, Edrychwch ar fanylion taith gerdded Llwybr Arfordir y Mileniwm (yn agor yn tab newydd).
Mae'r daith gerdded hon yn cysylltu tref hardd y Felinheli a thref hanesyddol Caernarfon, a bydd golygfeydd hyfryd o’r Fenai ac arfordir Ynys Môn ar hyd y ffordd.
Gellir ymestyn y llwybr llinol hwn hefyd, gan ei wneud yn un o’r llwybrau hygyrch hiraf ar hyd llwybr yr arfordir, trwy ei gyfuno â thaith gerdded Gardd Fotaneg Treborth i Ystad y Faenol i’w wneud yn daith gerdded 18km rhwng Gardd Fotaneg Treborth a Chaernarfon. Gallwch wneud hyn drwy gerdded ar hyd y llwybr o’r Felinheli tuag at Ystad y Faenol gan groesi o dan bont Britannia, un o ddwy bont sy’n cysylltu Ynys Môn â thir mawr Cymru, a pharhau i ddilyn arwyddion Llwybr Arfordir Cymru tuag at Ardd Fotaneg Treborth.
Sylwch fod y rhan gyntaf o'r glannau yn Y Felinheli yn dringo llethr serth a ddylai fod yn iawn i’r rhan fwyaf o offer symudedd modur. Os ydych chi'n defnyddio offer a yrrir â llaw, efallai y bydd angen rhywfaint o help arnoch chi. Neu gellir cychwyn y llwybr ar ben y llethr hwn o feddygfa’r Felinheli. Edrychwch ar fanylion taith gerdded Y Felinheli i Gaernafon (yn agor yn tab newydd).