Pecyn cyfryngau 10fed pen-blwydd

Trosolwg o Lwybr Arfordir Cymru a beth sy’n digwydd yn ystod dathlu degfed ben-blwydd y Llwybr

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Rhannu

Mae Rhan 1 yn rhoi trosolwg o’r llwybr yn ogystal a ffeithiau a ffigyrau yn ymwneud â’r llwybr a chanllaw i ddathlu’r deg.

Mae Rhan 2 yn rhestru ‘Beth sy’n Newydd ar gyfer 2022’. Bydd y rhestr hon yn cael eu diweddaru â chadwyn o storïau newydd drwy gydol 2022 – felly cofiwch gadw golwg!

Rhan 1: Yn dathlu deg mlynedd o anturiaethau cerdded

Cymru’n dathlu degfed pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru ar y 5 Mai eleni. Lansiwyd y llwybr cerdded 870 milltir (1,400 km) o hyd yn 2012.

Mae’n cysylltu â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa (sy’n dilyn y ffin rhwng Cymru a Lloegr) a Llwybr Glyndŵr sef llwybr cerdded sy’n cysylltu â Llwybr Clawdd Offa.

Mae’r cysylltiadau yma’n gwneud cerdded yng Nghymru’n brofiad gwirioneddol unigryw gan fod modd dilyn llwybr cerdded di-dor bob cam o gwmpas ei berimedr.

Caiff miloedd o bobl eu denu i gerdded Llwybr Arfordir Cymru bob blwyddyn i fwynhau’r tirwedd, y bywyd gwyllt a diwylliant amrywiol Cymru.Gan ddechrau ar Ddydd Gŵyl Dewi, nawddsant Cymru, ar 1 Mawrth 2022, caiff y degfed pen-blwydd ei nodi gan raglen o ddathliadau i nodi’r achlysur.

Bydd hyn yn cynnwys:

  • adnoddau a chyfleoedd newydd i fwy o bobl ifanc gael cerdded y llwybr;
  • amrywiaeth newydd o nwyddau ar gyfer cerddwyr i gofio’r deg mlynedd;
  • gwyliau cerdded, gweithgareddau diwylliannol a digwyddiadau amgylcheddol ar hyd arfordir Cymru drwy gydol y flwyddyn;
  • Cymru – y wlad sy’n ail-lenwi eich potel ddwr! Mae dros 600 o leoliadau ar hyd llwybr yr arfordir, lle gellwch ail-lenwi eich potel ddŵr;
  • cyhoeddi llyfr taith Cymraeg ar gyfer Penrhyn Llŷn;
  • 20 taflen gerdded newydd ar thema ddiwylliannol i’w rhyddhau;
  • ap i alluogi cerddwyr i dracio’u cynnydd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ar eu ffôn symudol;
  • dadorchuddio darn celf (Dyfodol) Llwybr Arfordir Cymru mewn ymateb i newid hinsawdd.

Yn ystod dathlu’r deg, rydyn ni’n gwahodd pawb i ymuno â ni er mwyn dathlu popeth sydd gan y llwybr i’w gynnig, nid yn unig ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru, ond ledled y byd.

Deg ffaith am Lwybr Arfordir Cymru

  1. 100 o draethau – ar hyd Llwybr Arfordir Cymru roedd 42 traeth Baner Las yn 2021, mwy’r filltir nag unrhyw le arall yn y DU
  2. 95,800 troedfedd (29,200 metr) – cyfanswm y tir sy’n esgyn ac yn disgyn ar hyd Llwybr Arfordir Cymru – mae hyn bron deirgwaith uchder Everest
  3. 1,047 milltir (1,685 km) – cyfanswm y pellter o gerdded Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa gyda’i gilydd
  4. Mae 88% o ymwelwyr â Llwybr Arfordir Cymru yn gytun fod defnyddio’r llwybr wedi cynyddu eu gwerthfawrogiad o Gymru a’i diwylliant
  5. Mae 96% o ymwelwyr â Llwybr Arfordir Cymru yn dweud eu bod yn mwynhau defnyddio’r llwybr
  6. Mae 45% o ymwelwyr â Llwybr Arfordir Cymru wedi nodi fod y gallu i ymlacio a dadflino tra ar y llwybr yn hwb i gerdded
  7. Mae tua 2,000 o barau o for-wenoliaid pigddu (aderyn môr) i’w gweld yn ystod misoedd yr haf ym Mae Cemlyn, Sir Fôn; yr unig nythfa debyg yng Nghymru
  8. Mae 30 o orsafoedd bad achub RNLI yng Nghymru. Mae criwiau bad achub gwirfoddol yng Nghymru yn helpu dros 3,000 o bobl y flwyddyn
  9. Mae 16 castell wedi’u hadeiladu ar hyd neu’n agos i arfordir Cymru
  10. Mae tua 3,000 o longddrylliadau wedi digwydd o fewn 2 km i arfordir Cymru

Cwestiynau Cyffredin

Sut fath o lwybr ydy hwn?

Mae’n llwybr hir sy’n ymestyn am 870 milltir (1,400 km) o ffin Cymru ger Caer yn y gogledd i Gas-gwent yn ne-ddwyrain Cymru. Mae’r llwybr hwn hefyd yn cysylltu llwybrau arfordirol hanesyddol, fel yn Sir Fôn, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae’r cylch di-dor hon yn ymuno â Llwybr Clawdd Offa sy’n Llwybr Cenedlaethol 177 milltir / 285 km o hyd gan ddilyn ffin Cymru - Lloegr i gwblhau’r gylchdaith gyfan o amgylch Gymru.

Bydd hefyd yn ymuno â Llwybr Arfordir Lloegr ar y ffin yng Nghaer yn ogystal â gerllaw Cas-gwent. Gweler y map llwybr rhyngweithiol neu gwirio’r tablau pellter

Beth yw’r amser gorau i fynd?

Gallwch ymweld â’r llwybr ar unrhyw adeg – mae’n hygyrch ac yn rhywbeth i’w fwynhau drwy gydol y flwyddyn. Y cyfan sydd eisiau arnoch yw dillad addas ar gyfer y tywydd.

Faint wnaiff hi gymryd?

Ar gyfartaledd, mae cerddwr sy’n cerdded pellter hir yn cymryd tua thri mis i gwblhau’r llwybr sef cyfartaledd o 10.5 milltir y dydd. Dewis arall fyddai rannu’r pellter yn 153 adran a cherdded 5.5 milltir y dydd ar gyfartaledd.

Y ffordd orau yw cymryd eich amser, er y gallai gymryd blynyddoedd i gwblhau bob cam o’r 870 milltir. Mae’n well gan rai pobl gymryd y ffordd gyflymach a’i redeg mewn mater o wythnosau.

Beth bynnag y dewis, unwaith maen nhw wedi cyflawni’r fath gamp anhygoel, mae tystysgrifau a bathodynnau ar gael y gellir eu cyflwyno er mwyn gallu dathlu gyda theulu a ffrindiau. Gellir prynu’r rhain o’r Trails Shop

Ydy’r llwybr yn unigryw?

Y llwybr yw un o’r ychydig lwybrau cerdded di-dor sy’n dilyn arfordir gwlad yn y byd. O’i gyfuno â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, mae’n bosibl mynd o gwmpas perimedr Cymru ar droed – cyfanswm o 1,047 milltir / 1,685 km.

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn denu miloedd o ymwelwyr i arfordir Cymru bob blwyddyn i archwilio’r tirwedd, i weld y bywyd gwyllt a chyfle i flasu diwylliant unigryw ac amrywiol Cymru.

Sawl rhan sydd iddo?

Mae’r llwybr yn ddi-dor ond mae wedi’i rannu’n wyth llyfr taith. Mae’r rhain yn cynnwys: 

Neu ewch i Teithiau Cerdded am syniadau ar ble i gerdded y llwybr. www.walescoastpath.gov.uk/plan-your-visit/itineraries

Pwy sy’n gallu eu defnyddio?

Mae’r llwybr ar gael i gerddwyr, gydag ambell ran yn anaddas ar gyfer beicwyr, teuluoedd â choetsys, pobl â phroblemau symudedd, a’r rhai sy’n marchogaeth.

Gweler Teithiau Cerdded Mynediad Rhwydd am syniadau am ble i fynd ar gyfer teithiau cerdded rhwydd i bobl â phroblemau symudedd a choetsys. Darllenwch Amanda Harris’ coastal challenge sy’n sôn am ddilyn y llwybr gan ddefnyddio ei chadair olwyn a’i beic tair olwyn.

Ydy’r llwybr yn anodd?

Mae sawl rhan sy’n wastad fel promenâd gyda digon o gyfleusterau. Mae ambell ran hefyd sy’n fwy heriol. Caiff yr ymdrech o gerdded i fyny ac i lawr y bryniau ei wobrwyo gan olygfeydd arfordirol anhygoel. Mae’r llwybr yn codi ac yn disgyn dros uchder o 95,000 troedfedd neu 29,200 m – bron i deirgwaith uchder Everest!

Ble i aros?

Mae llefydd i aros drwy gydol y flwyddyn gydag llety amrywiol ar neu gerllaw’r llwybr, o feysydd pebyll i westai i yurts. Ond trefnwch le ymlaen llaw ar yr adegau prysur. Ni chaniateir gwersylla gwyllt yng Nghymru, heblaw eich bod wedi derbyn caniatâd gan y perchennog tir.

Sut i gyrraedd yno?

Gallwch gyrraedd y llwybr o sawl lleoliad ar hyd a lled yr arfordir. Mae nifer o fannau’n agos at brif orsafoedd rheilffordd ac mae digon o fannau aros ar gyfer gwasanaeth bws mewn trefi ar hyd y llwybr.

Argymhellir eich bod yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar ddechrau neu ddiwedd eich diwrnod er mwyn gwneud pethau’n fwy hwylus fyth.

Edrychwch ar wefan Traveline Cymru er mwyn trefnu eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus. Gwnewch yn siwr os bod hawl gennych i fynd â chi ar y gwasanaeth cyn eich bod yn teithio.

Gallwch barcio eich car mewn unrhyw faes parcio bach ar hyd y llwybr cyn belled â’ch bod yn parcio’n gyfrifol. Ceir gwybodaeth bellach ar Wales Coast Path / Wales Coast Path by Bus

Oes mynegbyst?

Mae arwyddion logo melyn a glas trawiadol sy’n cynnwys cragen â chynffon draig o un pen o’r llwybr i’r llall. Mae fersiwn coch o’r arwydd yn dangos llwybr amgen i’r llwybr swyddogol i ddangos dewis arall pan fo’r llanw yn uchel.

Oes map ar gael?

Mae’r llwybr yn defnyddio llwybrau tramwy sy’n bodoli er enghraifft defnyddio llwybrau cerdded, llwybrau beicio, promenad a thraethau. Nodir Llwybr Arfordir Cymru hefyd ar fapiau Arolwg Ordnans fel llinell o ddiemwntau gwyrdd.

Oes llyfrau tywys ar gael?

Mae cyfres o lyfrau tywys swyddogol ar gael i’w prynu oddi wrth Northern Eye books. Mae nifer o awduron taith eraill hefyd wedi ysgrifennu llyfrau tywys am y llwybr. Gall ap swyddogol Llwybr Arfordir Cymru (ar gael ar gyfer iOS ac Android) gofnodi eich taith a dweud wrthych os ydych chi ar y llwybr neu beidio. Chwiliwch am ‘Wales Coast Path’ yn y siopau ap.

Pwy sy’n gofalu am y llwybr?

Cydlynir rheolaeth o’r llwybr gan Cyfoeth Naturiol Cymru gan weithio ar gynnal a chadw a datblygu’r llwybr mewn partneriaeth ag 16 awdurdod arfordirol lleol a dau barc cenedlaethol. Mae pum swyddog rhanbarthol ymroddedig yn gweithio ar hyd y llwybr, gan sicrhau ei fod yn cydymffurfio â safonau penodol o ran ansawdd. 

Pwy sy’n talu am y llwybr?

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyllideb flynyddol i Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn cynnal a chadw, gwella a hybu Llwybr Arfordir Cymru, mewn partneriaeth agos ag awdurdodau lleol.

Sut ydwi’n gallu profi ’mod i wedi cerdded y llwybr?

Gallwch brynu tystysgrifau a bathodynnau i ddangos eich bod wedi cwblhau’r daith a chofnodi eich llwyddiant o’r Trails Shop

Lleisiau o’r Llwybr -  straeon o’r llwybr

Y person cyntaf i gwblhau’r llwybr cyfan.

Yn arloeswraig go iawn, Arry Beresford Webb (Cain) oedd y person cyntaf i gwblhau’r llwybr, gan orffen ei siwrnai arwrol yn lansiad y llwybr yn ôl yn 2012.

“Fe redais i Lwybr Arfordir Cymru i gyd, pob un o’r 870 o filltiroedd, a’r 176 o filltiroedd o Lwybr Clawdd Offa hefyd, mewn 41 diwrnod – dwi’n falch o allu dweud mod i wedi rhedeg o amgylch perimedr cyfan fy ngwlad – rhywbeth dwi mor falch o fod wedi’i gyflawni! Roedd hyn yr un faint â 40 marathon gwlad un ar ôl y llall, i gyd â’r nod o godi £25,000 ar gyfer Canolfan Ganser Felindre a Sefydliad Gozo CCU.

Roedd yr her hon yn bwysig iawn i mi’n bersonol, ac fe roddodd fy nyfalbarhad a fy mhendantrwydd ar brawf nifer o weithiau o achos natur yr her a fy nghysylltiad i â gwahanol lefydd ar hyd y llwybr.
Ro’n i’n arbennig o hoff o Ynys Môn a Sir Benfro, ond mae cymaint o amrywiaeth ar hyd y llwybr, mae’n anodd dewis un lle arbennig. Fe wnes i gwrdd â chymaint o bobl garedig a chefnogol yn ystod fy her – llawer ohonyn nhw yn byw yn agos at y llwybr ac yn teimlo balchder go iawn am hynny. Ar hyd fy nhaith, wrth i mi redeg ar hyd y llwybrau mewn llefydd cyfarwydd a rhai mae gen i atgofion plentyndod melys ohonyn nhw, gallwn i deimlo’r un synnwyr o falchder o fod yn rhan o rywbeth arbennig yma yng Nghymru.
Dwi’n teimlo’n freintiedig i fod y person cyntaf i brofi’r amrywiaeth sydd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Byddwn i wrth fy modd yn ei wneud eto, ond yn arafach, fel mod i’n gallu stopio a mwynhau’r llefydd y ces i ddim ond cipolwg ohonyn nhw!”

Gallwch chi ddarllen blog Dragon Run 1027 Arry

Teyrnged bersonol

Dave Quarrell, sy’n byw ger Cas-gwent, oedd y person cyntaf i gerdded Llwybr Arfordir Cymru:

“Fy nhad, Gerry, oedd pennaeth Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad ar gyfer Llywodraeth Cymru ac roedd ganddo uwch rôl wrth gynllunio’r llwybr. Bu farw o gancr yn 2011 heb weld gorffen y prosiect. Roedd Dad wedi’i fagu ym Mannau Brycheiniog ac yn gerddwr brwd, felly roedd hwn yn brosiect roedd ganddo ddiddordeb mawr ynddo. Dyna pam roedd cerdded am 72 diwrnod, gan ddechrau o’r seremoni agoriadol ym Mae Caerdydd, hefyd yn bersonol iawn i fi. Roedd yn deyrnged i Dad ac yn fodd o godi arian i Ymchwil Cancr.

Swydd y tu ôl i ddesg sydd gen i a doeddwn i ddim yn frwd am chwaraeon yn yr ysgol, felly roedd yr wythnos neu ddwy gyntaf yn anodd. Rwy’n cofio cerdded o Fae Caerdydd ac wynebu llethr serth ym Mhenarth. Bu’n rhaid i fi ail bacio fy mag mewn arosfa bws ar y top.

Roedd ambell brofiad digon emosiynol i fi ar hyd y llwybr a mannau lle’r oeddwn ar fy mhen fy hun gyda fy meddyliau. Erbyn hyn rwy’n sylweddoli pa mor lwcus oeddwn i i gael amser a lle i brosesu fy ngalar o golli rhiant. Mae rhywbeth yn hynod sylfaenol a chadarn am roi un troed o flaen y llall. Rwy’n gwybod na fyddai Dad yn gwastraffu geiriau o fy ngweld i’n cwblhau’r daith, gan ddweud rhywbeth fel ‘ymdrech dda’. Ond rwy’n gwybod y byddai wedi bod yn hynod falch.”

 

Dysgwch fwy am brofiad Dave bersonal

Cerdded yn hyderus

Zoe Langley-Wathen, sy’n byw yn Sir Fynwy, yw sylfaenydd a chyflwynydd y podlediad Head Right Out. Zoe oedd y ferch gyntaf i gerdded y llwybr:

“Treuliais 43 diwrnod yn cerdded yr 870 milltir. Newidiodd fy mywyd. Dechreuais sylweddoli wrth gerdded y Llwybr nad dim ond am natur a bywyd gwyllt nac amser i fyfyrio oedd y daith. Ro’n i’n gwthio fy hun. Arweiniodd at lansio HeadRightOut er mwyn annog merched i gysylltu â’r byd mawr y tu allan a herio’u hunain. Wedi’r cwbl, mae gan bawb ei Everest ei hun.

Gall merched golli’u hyder wrth iddyn nhw gyrraedd y menopos, ond ymarfer corff yw’r allwedd i deimlo’n well o ystyried yr effaith cadarnhaol mae bod y tu allan yn ei gael ar ein lles. Cyrhaeddais nôl ar ôl cyrraedd y Llwybr yn 2012 gan deimlo’n fwy heini’n gorfforol ond hefyd yn feddyliol iach. Byddwn nawr yn annog bob merch i ddefnyddio anturiaethau awyr agored i gadw’u pennau’n iach.

Dylai merched sy’n wynebu diwedd y mislif fod yn hyderus, yn gwthio’u hunain i wneud pethau na fydden nhw’n eu gwneud fel arfer. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn gyflwyniad ardderchog i deithiau cerdded pellter hir ac yn ffordd ardderchog o ddechrau.”

 

Dysgwch fwy am brofiad Zoe

Y flwyddyn orau erioed

Will Renwick, Golygydd y cylchhgrawn ar-lein Outdoors Magic oedd y person ieuengaf i gerdded y llwybr – pan oedd yn 22 mlwydd oed.

“Ro’n i’n cerdded y Camino de Santiago yn Sbaen pan ddarllenais am agor Llwybr Arfordir Cymru. Wedi fy ngeni yn Y Barri yn ne Cymru, dwi wedi bod wrth fy modd â thirwedd Cymru erioed ac roedd y Camino wedi tanio fy nheimladau arloesol. Felly dyma adael gartref yn 2013, gan gymryd blwyddyn i ffwrdd o’r brifysgol, a’i throi hi am yr arfordir agosaf ataf sef Aberddawan. Sylweddolais, pe gallwn gwblhau’r gylchdaith y byddwn nôl yno i ddathlu gydag ambell botel o gwrw yn y dafarn leol sef y Blue Anchor – 63 diwrnod yn ddiweddarach, a dyna fel y bu.

Mae rhywbeth hynod fyfyriol ynglŷn â cherdded pellter ar eich pen eich hun. Mae’n dda i’r enaid. Dysgodd cerdded Llwybr Arfordir Cymru fi i fod yn hapus yn fy nghwmni fy hunan. Ond deuthum ar draws nifer o ddieithriaid caredig hefyd. Er enghraifft, pobl a welais mewn tafarndai a siopau ar hyd y daith fyddai’n cynnig soffa i fi gysgu arni dros nos , neu’n fy ngwahodd draw am frecwast y bore wedyn.

Ac mewn gwirionedd, i Lwybr Arfordir Cymru y mae’r diolch am drywydd fy ngyrfa wrth i fi flogio a thrydar fy ffordd o’i gwmpas. Arweiniodd hynny at swydd ysgrifennu ar gylchgrawn awyr agored. Efallai mai gwaith yw hynny ar hyn o bryd, ond mae fy awch anturus a daniwyd gan Gymru yno o hyd.

Dwi’n meddwl fod pobl ifanc yn dechrau sylweddoli fod antur i’w gael  o fewn ein gwlad ein hunain. Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn hybu hynny yn dilyn y pandemig. Ond mae’n bwysig i ni gyd gofio fod angen i ni fod yn warcheidwaid i’r amgylchedd naturiol.”

 

Dysgwch fwy am brofiad Will

Geiriau pwysig ar gyfer darllen mynegbyst

25 gair defnyddiol y byddwch chi’n siŵr o’u gweld wrth ddarllen mynegbyst ar hyd y daith:

  • Afon = river
  • Bryn = hill
  • Bwlch = mountain pass
  • Caer = fort
  • Capel = chapel
  • Carreg = stone
  • Coed = woodland
  • Cwm = valley
  • Dinas = fort
  • Ffordd = road
  • Gwesty = hotel
  • Heddlu = Police
  • Llan = ancient church
  • Llwybr = path
  • Llyn = lake
  • Moel = rounded mountain
  • Morfa = coastal marsh
  • Nant = stream
  • Pentre = village
  • Pont = bridge
  • Siop = shop
  • Tafarn = pub
  • Traeth = beach
  • Tŷ = house
  • Ynys = island

Hefyd, dyma chi pum brawddeg defnyddiol ar gyfer y daith:

[Ar y llwybr] Bore da. Mae’n ddiwrnod braf heddiw.

[Yn y caffi] Allwch chi lenwi fy fflasg, os gwelwch yn dda? Mae gen i ddeg milltir arall i fynd y prynhawn yma.

[Yn y llety] Oes gyda chi wely dwbl ar gyfer heno, os gwelwch yn dda, gyda brecwast?

[Yn y fferyllfa] Oes gyda chi blastr ar gyfer fy mhothelli, os gwelwch yn dda?

[Yn yr orsaf fysiau] Faint o’r gloch mae’r bws olaf nôl i Lanfair PG?

Galwad i weithredu

Gwelwch y dolenni yma ar gyfer ddarllen pellach

Ymuno yn y drafodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol

Defnyddiwch ein hashnodau

#WCP10 #LLAC10

Lawrlwythwch ein asedau  

Mynediad i logos degfed pen-blwydd, canllawiau asedau a delweddau o ansawdd uchel o Lwybr Arfordir Cymru yn ddi-dâl (angen cofrestru) o gwefan Asset.Wales.com (angen cofrestru)

Rhanwch ein ffilmiau ar gyfer pob rhan o’r llwybr: Wales Coast Path / Llwybr Arfordir Cymru - YouTube

Rhan 2: Beth sy’n newydd ar gyfer 2022

Bydd y rhestr hon yn cael eu diweddaru â chadwyn o storïau newydd drwy gydol 2022 – felly cofiwch gadw golwg!

Rhifyn newydd o Walking the Wales Coast Path gan Paddy Dillon (Ebrill)

Hefyd, bydd rhifyn newydd o Walking the Wales Coast Path yn cael ei gyhoeddi gan Cicerone ym mis Ebrill - ar gyfer dathlu Llwybr Arfordir Cymru ym mis Mai yn ddeg oed.

Yn ôl yr awdur, Paddy Dillon, sydd weddi gweithio ar ddau rifyn blaenorol o’r llyfr tywys ac wedi sylwebu ar ddatblygiad y llwybr:

“Rwy’n gweld gwelliannau bach parhaus i’r llwybr. Mae heriau o'n blaenau - wedi'r cyfan, allwch chi ddim brwydro yn erbyn natur. Ond rwy wedi fy ysbrydoli i barhau i wella’r isadeiledd, codi camfeydd newydd ac arwyddion newydd mewn rhai mannau, yn ogystal â chreu mynedfeydd ychwanegol i’r arfordir mewn rhai ardaloedd yn ystod y deng mlynedd diwethaf.” 

 

Mae gweminar gyda Paddy wedi’i threfnu i gyd-fynd â’r lansiad.

Bydd Sarah Williams, anturiaethwraig a chyflwynydd podlediad o Tough Girl Challenges yn defnyddio’r llyfr i gerdded ar hyd y llwybr o un pen i’r llall yn ystod gwanwyn 2022. Ei nod yw cynyddu’r nifer o bobl yn y cyfryngau, gan ganolbwyntio ar ferched anturus sy’n ymgymryd â heriau corfforol. Bydd yn cyfarfod â’r rhai sydd wrth eu bodd gyda’r llwybr ac yn gweithio ar y llwybr er mwyn rhannu eu profiadau ar ei sianeli cymdeithasol.

Cyhoeddir Waking the Wales Coast Path ar 15 Ebrill www.cicerone.co.uk

Llyfr tywys Cymraeg newydd i’w lansio’n ystod y gwanwyn (mis Mai)

Bydd fersiwn Gymraeg newydd o’r Canllaw Swyddogol i ran Penrhyn Llŷn o Lwybr Arfordir Cymru ar gael mewn siopau llyfrau ac ar-lein yn ystod Gwanwyn 2022. Bydd y llyfr tywys yn cael ei lansio yn ystod digwyddiad ar Lwybr Arfordir Cymru a fydd yn cynnwys taith dywys.

Ychwanegodd Rhys Gwyn Roberts, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru ar gyfer Arfordir Llŷn ac Eryri

“Rydym wrth ein boddau fod gyda ni bellach lyfr tywys ar gyfer Llŷn y gall siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ei ddefnyddio i grwydro o gwmpas y rhan hon o Gymru yn eu mamiaith. Hyderwn yn fawr iawn mai hwn fydd y cyntaf mewn cyfres i’w cyhoeddi ac y bydd y saith arall yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg yn y dyfodol agos.”

 

Mae cyhoeddwyr y Llyfrau Tywys Swyddogol, Northern Eye, hefyd yn cynhyrchu llyfr poced ‘Top 10 Walks’ sef cyfres o deithiau cylchol byr ar gyfer bob rhan o’r llwybr – yn cynnwys sawl llyfr tywys o gwmpas tafarndai arfordirol.

Ategir y llyfrau tywys hyn gan gyfres o atlasau o faint poced, hawdd eu defnyddio – un ar gyfer bob rhan o’r llwybr – sy’n dangos y llwybr swyddogol diweddaraf ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru ynghyd ag amwynderau eraill, ar fapiau Arolwg Ordnans ar raddfa fawr. Mae atlasau’r cerddwyr yn cywasgu sawl map anhylaw o fapiau arfordirol yr Arolwg Ordnans i faint lyfr maint poced sy’n hawdd i’w gario a chyfeirio ato ar hyd y daith.

Ble i prynu

  • Mae Canllaw Swyddogo i ran Penrhyn Llŷn (yn Y Gymraeg) yn £15.99, mae ar gael i’w brynu o siopau llyfrau ac ar-lein o wefan Cyngor Llyfrau Cymru
  • Mae arweinlyfrau swyddogol (7 i gyg yn Saensneg) ar gael o’r gwefan Wales Coast Path.co.uk

Ceir copïau adolygu oddi wrth: tony.bowerman@icloud.com

Cyfeillion yn cerdded yn araf o amgylch Llwybr Arfordir Cymru ar ddamwain bron 

Mae’r cyw awduron, Eirlys Thomas a Lucy O’Donnell, yn nodi 10 mlynedd ers sefydlu Llwybr Arfordir Cymru drwy adrodd am eu profiadau cerdded araf ar hyd y llwybr 870 milltir / 1,400 km hwn.

Mae'r daith yn mynd ag Eirlys a Lucy o Gas-gwent yn ne Cymru i Gaer yn Swydd Gaer. Mae’r awduron yn llysgenhadon brwd dros yr antur arfordirol, ar ôl ennill dealltwriaeth a pharch ehangach at sefydlwyr arloesol Llwybr Arfordir Cymru, y newidiadau amgylcheddol sy’n wynebu’r llwybr, a’r gweithlu sy’n cynnal a chadw’r llwybr o ddydd i ddydd.

Ychwanegodd Eirlys: 

Pe bai rhywun wedi dweud pan oeddwn i’n iau y byddwn yn cwblhau Llwybr Arfordir Cymru yn fy chwedegau hwyr ac yn cyd-ysgrifennu fy llyfr cyntaf yn 70 oed, byddwn wedi dweud wrthyn nhw am beidio â siarad lol. Roedd cerdded yn araf, gan osod targedau dyddiol rhesymol, yn golygu ’mod i wedi cyrraedd y nod o 870 milltir gan deimlo'n gorfforol a meddyliol gryfach gyda phob cam. Heddiw, os ydw i angen ymarfer corff neu os oes gen i unrhyw beth ar fy meddwl, dwi'n gwisgo fy esgidiau cerdded ac yn ailymweld â Llwybr Arfordir Cymru - fy llwybr therapiwtig am oes.

 

Ychwanegodd Lucy:

Wedi i mi golli fy ngwaith, fe wnaeth y daith gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru fy helpu i glirio fy meddwl, ystyried fy nyfodol gan wir roi’r hyder i fi fynd i’r afael ag unrhyw beth. Ers cwblhau’r llwybr rwyf wedi gweithio fel rheolwr teithio yn Sbaen, wedi cymhwyso’n broffesiynol i dywys twristiaid yng Nghymru ac wedi sefydlu busnes teithiau tywys a dysgu siarad Sbaeneg a Chymraeg

 

Manylion pellach a gwybodaeth: Lucy O’Donnell ffon symudol 0752562484, e-bost lucyjodonnell12@gmail.com

Lansio nwyddau newydd Llwybr Arfordir Cymru (mis Mai)

O fis Mai 2022, bydd dewis newydd o nwyddau Llwybr Arfordir Cymru wedi’u brandio ar gael i’w prynu. Mae hyn yn dilyn galw gan y rhai sydd wedi ac yn dal i gerdded ar hyd y llwybr i gael prynu nwyddau i gofnodi eu taith.

 Yn ôl Eve Nicholson, Swyddog Marchnata Llwybr Arfordir Cymru, “Er ein bod eisoes yn gwerthu tystysgrifau a bathodynnau cwblhau’r daith, gofynnir i ni’n rheolaidd a all cerddwyr brynu rhywbeth i’w hatgoffa o’u hantur ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Gan ein bod yn dathlu'r deg,

bydd amrywiaeth o nwyddau deniadol ac ymarferol ar werth ar-lein.”

Ceir manylion pellach ddechrau’r gwanwyn.

Cymru yn hybu cynaliadwyedd gyda phrosiect di-blastig (Mis Mehefin)

Mae Refill Cymru wedi gosod 651 safle ail-lewni poteli dŵr ar hyd Llwybr Arfordir Cymru er mwyn cwtogi ar y defnydd o blastig defnydd sengl fel rhan o fenter Llywodraeth Cymru i sicrhau mai Cymru yw’r wlad ail-lenwi poteli dŵr cyntaf.

Bwriad yr ymgyrch yw atal llygredd plastig drwy gynnig ail-lenwi poteli dŵr mewn lleoliadau ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ac mae nifer o’r lleoliadau hynny o fewn tua milltir o’r llwybr. Ar gyfartaledd bydd un person yn y DU yn defnyddio 150 potel blastig bob blwyddyn, yn ôl ymchwil gan Refill Cymru.

Ym ôl Hannah Osman, Rheolwr Refill Cymru: “Mae Refill Cymru wedi gweithio i gynyddu’r mynediad i ddŵr ledled Cymru ers 2018. Wedi COP-26, dyma gynnig ateb syml, cynnig sy’n annog gweithredu ar lefel sylfaenol ac yn arwain at ganlyniadau diriaethol.”

Bydd Refill Cymru yn nodi Diwrnod Ail-lenwi’r Byd ar 16 Mehefin, wedi sicrhau 2,200 o safleoedd ail-lenwi ledled Cymru erbyn Ionawr 2022.

Mae’r sefydliad yn dyfynnu One Poll World Refill Day Survey Cymru 2021, lle cytunodd 60 % o’r ymatebwyr fod pandemig Covid-19 wedi gwneud iddyn nhw sylweddoli pwysigrwydd treulio amser yng nghanol byd natur er eu lles meddyliol. Ond dywedodd tua 36 % o'r ymatebwyr fod llygredd plastig wedi gwaethygu ers y pandemig.

Lawrlwythwch ap Refill Cymru i ganfod lleoliadau ail-lenwi a chadwch lygad allan am y sticeri glas yn y lleoliadau sy’n cymryd rhan.

Darllenwch fwy am genhadaeth Ail-lenwi Cymru