Chwilio an gyffro

Abseilio, rafftio dŵr gwyn, cyrsiau beicio mynydd gyda’r gorau yn y byd, paragleidio, cartio, dringo – mae gan Gymru ddigonedd i’w gynnig i’r rhai sy’n chwilio am antur

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Ar hyd yr arfordir trawiadol, cynhelir gweithgareddau awyr agored i bob oed drwy’r flwyddyn ac mae nifer o ganolfannau antur ger Llwybr Arfordir Cymru sy’n cynnig her a chyffro.

Arfordir y Gogledd ac Aber Afon Dyfrdwy

Trac rasio beicio cylch cyfyng 1.3km a thrac rasio safonol ar gyfer beiciau BMX yw’r March Tracks yn y Rhyl. Cewch nifer o neidiau a throadau heriol yn yr arena ddidraffig ac mae’n rhan o brosiect lleol i gynnig chwaraeon am gost isel. Un gweithgaredd sy’n dod yn boblogaidd iawn yw syrffio barcud ym Mae Cinmel.

Ynys Môn

Mae cyffro i’w gael wrth bysgota môr oddi ar lannau Ynys Môn. Mae gwahanol fathau o bysgod wedi ymgartrefu mewn llongau a ddrylliwyd ger y lan felly does dim rhaid teithio’n bell. Mae Ynys Môn yn lle poblogaidd ar gyfer caiacio, syrffio, arfordira, syrffio barcud a dringo clogwyni hefyd.

Menai, Llŷn a Meirionnydd

Ar arfordir Gwynedd y ceir rhai o’r clogwyni môr gorau i’w dringo ym Mhrydain ac nid yw mynyddoedd Eryri’n bell ychwaith. Ceir bygis barcud a chyfle i syrffio barcud ar rai o draethau Llŷn. Caiff miloedd o bobl eu denu i Abersoch gan y chwaraeon dŵr ac mae traethau cyfagos Porth Neigwl, Porth Ceiriad a Phorthor yn llefydd ardderchog i syrffio a byrddio ar donnau’r Iwerydd. Mae’n well gan sgiwyr dŵr a thonfyrddwyr ddyfroedd gwastad Bae Abersoch.

Ym Mhlas Menai, ceir hyfforddiant arbenigol mewn hwylio, hwylforio, canŵio a llywio cychod cyflym. Mae’r golygfeydd yn wych ar afon Menai tua Môn a’r mynyddoedd.

Ceredigion

Ceir cyfle i gymryd rhan mewn pob math o chwaraeon cyffro ar arfordir Ceredigion – canŵio, syrffio, rhwyfsyrffio, blocartio a pharagleidio. Mae nifer o ganolfannau antur yn yr ardal – gallwch hyd yn oed ddysgu sgïo yn Llangrannog.

Sir Benfro

Does unman gwell na Sir Benfro am weithgareddau awyr agored. Ceir croeso cynnes, amodau ardderchog a golygfeydd godidog ar gyfer syrffwyr, hwylwyr, hwylforwyr, caiacwyr, arfordirwyr a dringwyr. Beth am roi cynnig ar ddeifio yng Ngwarchodfa Natur Forol Cymru ar ynys Sgomer, ynysoedd bach y Smalls, neu ar lan y môr? Does unman gwell!

Sir Gaerfyrddin

Un o weithgareddau annisgwyl llwybr yr arfordir yw sgïo! Gallwch ddysgu neu ymarfer y gamp ar y llethrau artiffisial ym Mhen-bre. Gallwch logi’r offer yno. Mae ’na faes eirafyrddio arbenigol yno hefyd.

Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe

Mae traethau Langland, Caswell a Llangennith ar Benrhyn Gŵyr yn llefydd gwych i syrffio. Mae ysgolion syrffio Caswell a Llangennith ar agor drwy’r flwyddyn. Daeth Aberafan yn lle poblogaidd gan syrffwyr gan fod y tonnau glân a geir yno’n aml yn addas ar gyfer dechreuwyr a rhai mwy profiadol. Neu gallwch roi cynnig ar fyrddau padlo ar eich sefyll.

Arfordir y De ac Aber Afon Hafren

Mae trac Canolfan Gwibgerti De Cymru tua 1050 metr o hyd a hwn yw’r unig drac gwibgerti awyr agored yng Nghymru sydd wedi’i lifoleuo i gyd. Mae Porthcawl yn lle da ar gyfer gweithgareddau cyffrous hefyd, gan gynnwys syrffio barcud.

Un o atyniadau pennaf pentref chwaraeon y brifddinas yw Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd a’r anogaeth yw ‘Neidiwch i mewn!’  Yno, cewch droi’ch llaw at rafftio, hydro-gyflymu, caiacio a chanŵio. Ym Mae Caerdydd, cynhelir gweithgareddau cyffrous drwy’r flwyddyn yn y llyn dŵr croyw y tu ôl i’r morglawdd, fel gwibio mewn cychod gwynt â chorff anhyblyg, a thripiau i ynysoedd ym Môr Hafren.

Yng Nghanolfan Gweithgareddau Awyr Agored Cas-gwent, mae’r gweithgareddau’n cynnwys cwadfeicio, paentbelennu, sfferio, ymladd â laseri a gyrru 4x4. Cewch ddysgu sgwbadeifio yn y Ganolfan Genedlaethol Deifio a Gweithgareddauger Cas-gwent lle mae deifwyr medrus yn cynnig cyrsiau sy’n dechrau ar ddyfnder cymedrol o lwyfannau hyfforddi mewn hen chwarel. Cewch archwilio llong fach, hofrennydd, awyren fach a cherbyd tir-a-dŵr.