Ymunwch â gweminar “Croeso’n ôl” Llwybr Arfordir Cymru
Digwyddiad byw ar Facebook: straeon newyddion...
Dewch i ddarganfod traethau, porthladdoedd ac ynysoedd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, a chwilota glannau afonydd a llynnoedd Cymru. Ychwanegwch groeso cynnes o Gymru a diwylliant rhagorol i gael y profiad arfordirol gorau yn 2018. Croeso i’n glannau epic!
Beth am ddathlu Blwyddyn y Môr drwy gerdded Llwybr Arfordir Cymru?Mae’r llwybr 870 milltir / 1,400km o hyd hwn, sy’n dechrau a gorffen yn y Gogledd (ar y ffin ger Caer) a’r De (Cas-gwent), yn glynu wrth bob cam o arfordir Cymru.
Wrth gwrs, gallwch ddechrau ar eich taith ble bynnag y gwelwch chi ein harwyddbyst glas a melyn unigryw, yn sefyll yn falch i’ch arwain ar eich taith.
Dim problem! Mae’n hawdd iawn torri’r llwybr yn adrannau hawdd i’w cerdded.
Mae digon o deithiau cerdded y gallwch chi eu cwblhau mewn diwrnod neu dros benwythnos – byddwch chi’n gallu rhoi tic ar eich rhestr wneud wrth ochr y darnau hynny ymhen dim o dro!
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i gael llwybr troed parhaus ar hyd ei holl arfordir. Mae hefyd yn cysylltu â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, y llwybr 177 milltir / 285km sy’n ffinio Cymru a Lloegr.
Mae hyn yn golygu y gallech chi gerdded o gwmpas Cymru gyfan, ac y byddai’r môr neu’r arfordir i’w gweld gennych tua 83% o’r amser!
Mae gan ein gwefan lawer o wybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i gynllunio eich taith, o dablau pellter i fap ar lein o’r llwybr.
Mae’r teulu o ganllawiau swyddogol a mwyaf diweddar gan Northern Eye yn gyflawn ac ar gael i’w prynu ar lein ac mewn siopau ledled y wlad.
Mae’r llyfrau deniadol ac awdurdodol hyn yn ymdrin â 7 rhanbarth y llwybr, ac maen nhw’n ddelfrydol ar gyfer y cerddwr, gan gynnwys teithiau diwrnod a phenwythnos rhwng y cloriau.
Bydd y llyfrau hyn yn eich ysbrydoli i glymu careiau eich esgidiau cerdded – byddan nhw hefyd yn ychwanegiad delfrydol i unrhyw fwrdd coffi da!
Mae digon o lyfrau tywys eraill sy’n ymdrin â Llwybr Arfordir Cymru ar gael yn ein hadran Arwein Llyfrau.
Gallwch hefyd archwilio’r ardaloedd amrywiol y bydd y llwybr yn mynd drwyddyn nhw:
Beth arall sydd i’w ddarganfod yng Nghymru? Yr ateb cryno yw llawer mwy!
Mae Cymru’n wlad â’r môr yn ei hamgylchynu bron yn llwyr, felly gallwch ddisgwyl llawer mwy o warchodfeydd natur cenedlaethol arfordirol a choedwigoedd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi tynnu ynghyd eu i chi eu darganfod a’u mwynhau 10 Lle Arbennig Gorau ar lan y Môr. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol am y pethau sydd yno a beth i’w wneud.
Byddem wrth ein boddau’n clywed am eich teithiau cerdded ar hyd arfordir Cymru. Cofiwch ein tagio ar y cyfryngau cymdeithasol @walescoastpath gyda’r hashnodau canlynol:
#walescoast #arfordircymru #FindYourEpic #GwladGwlad