Arweinlyfrau Rhad ac Am Ddim
Cynlluniwch eich taith i’r llwybr ar ôl diwedd...
Ymunwch â Sean Fletcher o ITV a gwesteion arbennig eraill ar gyfer gweminar fyw i ddathlu'r gorau o Lwybr Arfordir Cymru.
Ymunwch â ni ar gyfer prynhawn o sgyrsiau ynglŷn â’r bywyd, y diwylliant a'r gweithgareddau a geir ar hyd y llwybr gan gyfres o unigolion sydd wedi cael profiad uniongyrchol ohono. Mae’r siaradwyr yn amrywio o’r cerddwr ieuengaf i gwblhau'r llwybr a'r fenyw gyntaf i redeg ar hyd y llwybr cyfan, i warden sy’n rheoli’r llwybr yn ddyddiol, a chyflwynydd enwog o fyd teledu.
Fe gewch hefyd glywed am gyfres newydd chwe rhaglen ITV Cymru Wales 'Wonders of the Coast Path', a gyflwynir gan Sean. Darlledir y rhaglen gyntaf ar rwydwaith ITV yn y DU yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw am 8.30pm (Amser Haf Prydain (BST)). Dewch i glywed am argraff Sean o’i antur ar Lwybr Arfordir Cymru.
Gallwch ymuno â ni ar gyfer ein digwyddiad byw ar Facebook 'Gweminar fyw: Croeso'n ôl i Lwybr Arfordir Cymru' ddydd Iau, 23 Gorffennaf 2020, 1pm tan 2pm (Amser Haf Prydain (BST)).
Gallwch wylio hyd yn oed os nad oes gennych gyfrif Facebook.
Anfonwch eich cwestiynau atom - anfonwch eich cwestiwn ynglŷn â’r llwybr at ein tudalen ddigwyddiadau ar Facebook 'Gweminar fyw: Croeso’n ôl i Lwybr Arfordir Cymru'
Mae croeso cynnes Cymreig yn eich disgwyl!