Digwyddiad Llwybr Arfordir Cymru - 'Ysbrydoli Pobl Ifanc'
Lansio adnoddau addysgol newydd mewn partneriaeth...
Mae’r rhan yma o’r llwybr yn eithaf gwastad ac yn ymestyn 25 milltir / 40km o Gaer i Gronant, gan ddenu gwylwyr adar o bob cwr at Aber Afon Dyfrdwy. Darganfyddwch olion diwydiannol yr ardal, gwirionwch â’r llwybr cerfluniau a manteisiwch ar y cyfle i hel cregyn hyd draeth Talacre!
Edrychwch ar-lein ar daflen “Darganfod Arfordir Sir y Fflint” am fwy o fanylion ynglŷn â’r mannau golygfa gorau ac i ddysgu mwy am atyniadau'r ardal. Mae’r pamffled ar gael i’w lawrlwytho o’r adran Adnoddau isod.
Dysgwch fwy am deithiau cerdded hir a byr ar dudalen Arfordir y Gogledd ac Aber Afon Dyfrdwy.
Wedi’i lleoli ar arfordir creigiog Gogledd Orllewin Môn, mae’r warchodfa natur hon yn boblogaidd ymysg ymwelwyr a phobl leol hefyd. Dringwch i ben Tŵr Elin lle gall y plant wylio’r adar trwy ysbienddrych, gan ddysgu am y cymunedau o lursod, gwylogod a phalod sydd yn nythu yno.
Yna sbwyliwch eich hun trwy gael coffi uwch y clogwyni yn y ganolfan ymwelwyr cyfagos – mae’r olygfa yno’n odidog!
Dysgwch fwy am deithiau cerdded hir a byr ar ein tudalen Ynys Môn
Pob blwyddyn y mae miloedd o ymwelwyr yn teithio i dde orllewin Cymru er mwyn darganfod rhinweddau Parc Arfordirol y Mileniwm a’r Ganolfan Ddarganfod enwog sydd yno ar aber Afon Llwchwr.
Mae 13 milltir / 22 km o arfordir o fewn y parc gan gynnwys rhan o Lwybr Arfordir Cymru, ac mae modd cerdded neu feicio ar ei hyd – eich dewis chi! Y mae digon o gyfleusterau yno hefyd i hwyluso eich trip.
Dysgwch fwy am deithiau cerdded hir a byr ar ein tudalen Sir Gaerfyrddin
Y mae glannau Bae Ceredigion yn Ardal Gadwraeth Arbennig ac yn gartref i’r boblogaeth fwyaf o ddolffiniaid trwyn-potel yn Ewrop.
Beth am gymryd mordaith bywyd gwyllt i weld agwedd wahanol o arfordir Ceredigion? Cadwch eich ysbienddrych wrth law i weld morloi, llamhidyddion a chrwbanod y môr yn eu cynefin naturiol!
Dysgwch fwy am deithiau cerdded hir a byr ar ein tudalen Ceredigion.
Darllenwch am gyfleoedd eraill i weld bywyd gwyllt arfordir Cymru ar ein tudalen Gwylio Bywyd Gwyllt.
Byddwch yn fentrus a darganfyddwch pa greaduriaid sydd yn llechu ym mhyllau creigiog arfordir Sir Benfro! Y mae llwyth o leoliadau gwych i danio chwilfrydedd biolegwyr bychain a’r rhai hŷn!
Ewch at dudalen Mwynhau Sir Benfro i ganfod y mannau gorau i archwilio pyllau glan y môr yn y rhan hyfryd yma o Gymru.
Dysgwch fwy am deithiau cerdded hir a byr ar ein tudalen Sir Benfro.
Ar gyrion dinas fywiog Casnewydd y mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd, lle ceir rhwydwaith pedair milltir o lwybrau sy’n addas i gadeiriau olwyn.
Mae’r warchodfa yn cynnwys sawl math gwahanol o gynefin ac yn hafan bwysig i fywyd gwyllt, cofiwch eich ysbienddrych!
Y mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewydd yn gorwedd rhwng aber Afon Hafren ac Afon Wysg ar arfordir deheuol Cymru.
Rheolir y safle gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth â RSPB Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd ymysg eraill er budd bywyd gwyllt a phobl.
Dysgwch fwy am deithiau cerdded hir a byr ar ein tudalen Arfordir y De ac Aber Afon Hafren.
Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich teithiau cerdded ar hyd arfordir Cymru, felly cofiwch ein tagio darganfodyddiadau teuluol ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'r hashnod:
#afordircymru #DewchiDdarganfod
Lluniau:
Arfodir Sir Fflint -Jo Danson
Clogwyni Ynys Lawd, Ynys Môn - © Crown copyright (2016) Visit Wales
Parc Arfordirol y Mileniwm - © Crown copyright (2016) Visit Wales
Bae Cardigan - © Crown copyright (2011) Visit Wales
Pyllau Creigiog Penfro - Enjoy Pembrokeshire
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptir Casnewyd - Nature Reserve RSPB Cymru