Nant Gwrtheyrn i Eglwys Beuno Sant, Pistyll

Cewch ymgolli mewn chwedloniaeth a diwylliant Cymreig wrth fynd am dro ar hyd yr arfordir garw hwn

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Diwedd

Nant Gwrtheyrn i Eglwys St Beuno, Pistyll

Pellter

4 milltir neu 7 km

Ar hyd y ffordd

Mae'r daith yn dechrau yn Nant Gwrtheyrn (y Nant i'w ffrindiau), canolfan ddiwylliannol yr iaith Gymraeg a leolir mewn hen bentref chwarelyddol Fictoraidd ar arfordir gogleddol garw Llŷn.

Wedi ei adael ar ôl i’r chwareli lleol gau, mae'r pentref yn eistedd yng nghysgod mynyddoedd yr Eifl ac yn gyforiog o chwedlau a llên gwerin lleol. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd â chi o'r Nant, heibio olion yr hyn a arferai fod yn borthladd uwchben y traeth a thrwy ardal o goetir arfordirol hynafol wedi’i ddiogelu i Chwarel Penrhyn Glas ar bentir gyferbyn â’r bae.

Oddi yno, dilynwch hen lôn werdd trwy dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i Eglwys Beuno Sant, Pistyll. Beth bynnag yw eich tueddiad crefyddol, mae'n werth ymweld â'r safle sanctaidd hwn. Yn dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif, mae wedi'i leoli ar hyd Ffordd y Pererinion, y llwybr hynafol sy'n cysylltu Abaty Dinas Basing yn Nhreffynnon gydag Ynys Enlli. Yn y 6ed ganrif roedd yr eglwys yn le i Beuno fod ar ei ben ei hun ac yn ddiweddarach i bererinion a wnaeth y daith hir i Ynys Enlli.

Y dyddiau hyn fe'i cedwir fel y byddai wedi bod yn amser Beuno, gyda pherlysiau a brwyn ar y llawr. Yn agored i ymwelwyr ac addolwyr, cynhelir gwasanaethau yma bob mis.

Gallwch naill ai olrhain eich camau ar gyfer eich taith yn ôl neu ddal Bws Arfordir Llŷn (tymhorol) yn ôl i Nant Gwrtheryn.

Uchafbwyntiau'r daith

Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru, Rhys Roberts 

"Rhai o'r darnau gorau o'r daith gerdded hon yw'r ganolfan Gymraeg yn Nant Gwytheryn, sy'n swatio yn y llechwedd, o dan Yr Eifl, lle gwelir geifr gwyllt yn aml ar y tomenni llechi.  Mae'r coetir derw hynafol, sy'n glynu i'r bryn uwchben y traeth, gyda'i fôr glas yn hyfryd, ond eglwys Beuno Sant ar ddiwedd y daith yw’r trysor".

Angen gwybod

Mae yna le parcio a thoiledau yn Nant Gwrtheyrn, ynghyd â Chaffi Meinir, sy'n gweini byrbrydau, prydau a lluniaeth.

Yn ystod misoedd yr haf a'r hydref gallwch ddal bws Arfordir Llŷn o Pistyll yn ôl i Nant Gwrtheyrn. Edrychwch ar gwefan Bws Arfordir Llŷn am amserlenni bysiau a manylion cyswllt.

Fel arall, gallwch ddychwelyd yn ôl i'r Nant dros y bryn ar yr ochr fewndirol.

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythwch taflen cerdded Nant Gwrtheyrn i Eglwys St Beuno, Pistyll (PDF) a map taith cerdded (JPEG)