Teithiau Cerdded Cylchol

Casgliad ardderchog o deithiau cerdded cylchol ar hyd yr arfordir

Mae taith gerdded gylchol yn ffordd ardderchog o ddarganfod arfordir Cymru a gweld golygfeydd llawn ysbrydoliaeth ac mae’n rhoi gwedd newydd ar y wlad i chi, heb i chi orfod troi’n ôl neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus. Yn aml, mae’r llwybrau’n mynd heibio trefi, pentrefi a mannau o ddiddordeb ar yr arfordir na fyddech efallai’n eu gweld wrth gerdded y prif lwybr.

Mewn partneriaeth â’n swyddogion lleol mae Paddy Dillon, yr awdur teithio profiadol, wedi datblygu casgliad newydd o deithiau cerdded cylchol sy’n defnyddio hawliau tramwy cyhoeddus cyfredol, llwybrau a ffyrdd mewn rhannau dethol o Gymru. Fel arfer nid ydynt wedi cael eu harwyddo ond bydd y cyfarwyddiadau manwl a geir yma a’r ffeiliau GPX yn caniatáu ichi ganfod y ffordd.

Mae detholiad hefyd ar gael ar wefan yr Arolwg Ordnans. Bydd angen i chi greu cyfrif OS, am ddim, i weld y teithiau cerdded hyn. Ar ôl gwneud hyn, byddwch yn gallu gweld y llwybrau ar fap rhyngweithiol, proffil y llwybr a byddwch yn gallu allforio ffeil GPX i'ch dyfais GPS eich hun ar gyfer pob taith gerdded.

Mae’r teithlennau hefyd yn rhoi manylion cludiant cyhoeddus, mannau o ddiddordeb a lletygarwch. Gallwch hefyd gynllunio eich siwrnai gan ddefnyddio Traveline Cymru, gwasanaeth gwybodaeth cludiant cyhoeddus yng Nghymru.

Dyma rai llwybrau cerdded cylchol eraill oddi ar Lwybr Arfordir Cymru: 

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Archwiliwch fan sy’n gyforiog o fywyd gwyllt ac yn llawn olion gorffennol diwydiannol yr ardal

Archwiliwch amrywiaeth o dirweddau ar y rhan dawel hon o'r llwybr

Archwiliwch ben pellaf deheuol y llwybr sy'n edrych dros Aber Afon Hafren a throsodd i Loegr

Archwiliwch hen dir diwydiannol diffaith a gafodd ei drawsnewid yn Warchodfa Natur Genedlaethol a Gwastadeddau Gwent a’u golygfeydd

Cyfunwch olygfeydd o'r aber â thraeth gogoneddus Pentywyn.

Dewch i fwynhau’r baeau mwyaf prydferth ar hyd arfordir Cymru