Cofrestrwch eich diddordeb i gymryd rhan

At sylw pob busnes a sefydliad

Os ydych chi ger Llwybr Arfordir Cymru neu Lwybrau Cenedlaethol Cymru (Llwybr Glyndŵr a Llwybr Clawdd Offa), mae’r arolwg hwn ar eich cyfer chi.

Cofrestrwch eich diddordeb heddiw

Rydym wedi gofyn i asiantaeth ymchwil marchnad annibynnol gynnal arolwg byr o fusnesau. Rydym eisiau deall beth sydd ei angen ar fusnesau a sefydliadau, i wneud y gorau o’u lleoliad a’r cyfleoedd y mae Llwybr yr Arfordir a’r Llwybrau Cenedlaethol yn eu darparu.

Rydym eisiau clywed gan amrywiaeth o fusnesau a sefydliadau o ddarparwyr llety, perchnogion caffis a bwytai, darparwyr gwyliau cerdded i’r sector hamdden awyr agored.